Dewch Â’n Hawliau Creadigol: Maniffesto Diwylliannol A Rhyngwladol Pobl Anabl
Maniffesto newydd gan Gelfyddydau Anabledd Cymru a’i bartneriaid yn galw am hawliau diwylliannol a rhyngwladol i bobl anabl ar Ddiwrnod Rhyngwladol Anabledd 2021.
​
“Mae gennym oll yr hawl i gael mynediad i gelfyddyd a diwylliant, fel aelodau o gynulleidfaoedd, i gyfranogi a chreu gwaith. O fewn Cyngor Celfyddydau Cymru, rydym yn cefnogi’r safbwynt o gael model cymdeithasol o anabledd, ac yn datgan yn gryf mae ein cyfrifoldeb ni a chyfrifoldeb y sefydliadau a ariennir gennym yw i fynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n llesteirio pobl anabl rhag cyflawni eu dyheadau creadigol ym maes y celfyddydau. Mae cefnogi’r maniffesto hwn yn datgan ein hymrwymiad i gyd-weithio gyda phobl anabl er mwyn sicrhau eu cynwysoldeb llawn wrth fwynhau a chreu’r celfyddydau. Byddai cymdeithas gyfan yn fwy cyfoethog yn ddiwylliannol petai gan bobl anabl hawliau creadigol sydd ar hyn o bryd, yn amlach na pheidio, ac er ein cywilydd, yn cael eu gwadu.”
​
Phil George, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru
“Mae’r maniffesto hwn yn garreg filltir bwysig a allai drawsnewid profiad pobl anabl o’r celfyddydau a’r ffordd y maent yn ymwneud â’r celfyddydau yng Nghymru a thu hwnt. Mae pobl anabl yn profi nifer o rwystrau o ran cael mynediad i’r celfyddydau , fel artistiaid a dinasyddion. Maent hefyd wedi eu heffeithio yn anghymharol gan bandemig Cofid a’r argyfwng hinsawdd. Mae llawer o waith i’w gyflawni, ond bydd ymateb i alwadau’r maniffesto hwn yn esgor ar newid. Mae’r gosodiad celfyddydol grymus gan yr artist Catherine Taylor Parry o gadair olwyn gydag esgyll euraid yn cynrychioli’r weledigaeth o fynediad di-rwystr i’r celfyddydau sydd wedi ei ysbrydoli gan y maniffesto hwn. Wrth ini ail-feddwl sut y mae’r celfyddydau yn gweithredu yng Nghymru ac yn rhyngwladol, mae gennym gyfle i roi hawliau creadigol a chyfiawnder cymdeithasol ar gyfer pobl anabl yn ganolog i’r ffordd yr ydym yn buddsoddi yn y celfyddydau yng Nghymru.”​
Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: