top of page

Crip Talks

Cyfres O Ddigwyddiadau Ar Gyfer Artistiaid Anabl A Byddar Yng Nghymru

Grymuso A Gwrando Ar Artistiaid Anabl Ifanc​

​

Digwyddiad ar-lein yn archwilio'r model cymdeithasol o anabledd o fewn ymarfer celfyddydau ieuenctid. Mae artistiaid anabl ifanc yn helpu i ddathlu'r hyn sy'n cael ei wneud yn dda ac yn ein hysbrydoli i weithio'n fwy cynhwysol.

​

Gwesteiwr: Miranda Ballin

Gwesteion: Ruth Fabby MBE DL, Jane Latham, Hannah Matthews, Steve Swindon, Emlyn Wright, Steph Back, Ciaran Fitzgerald, Safayan Iqbal, Dan o RecRock

Pwysigrwydd Yr Iaith Gymraeg I Rymuso Pobl Anabl

​

Crip Talk hynod ddiddorol sy'n trafod sut mae iaith yn effeithio ar ein bywydau a'r heriau a'r buddion o fod yn siaradwr Cymraeg ac yn Fyddar neu'n anabl.

​

Gwesteiwr: Natasha Hirst and Sara Beer.

Gwesteion: Professor Elin Jones, Sarah Lawrence, Nia Skyrme, Mared Jarman.

The Curator’s Stare

​

Beth sy'n digwydd pan fydd artistiaid yn teimlo nad ydynt wedi cyrraedd y nod ac yn cael eu gadael mewn sefyllfa o grfod cwestiynu eu gwaith a'u dulliau dro ar ôl tro? Sut allwn ni ymdopi pan fydd ein gobaith a’n hyder yn cael ei ddryllio? Sut allwn ni feddu ar y ‘Curators Stare’?

​

Gwesteiwr: Alan Whitfield

Gwesteion: Cheryl Martin, Richard Butchins, Gail Martin

Diwrnod Rhyngwladol Y Menywod 2021 - Dewis Herio

​

Mae Disability Arts Cymru mewn partneriaeth â #WeShallNotBeRemoved yn dathlu menywod Anabl a Byddar o bob rhan o'r DU ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod.

​

Gwesteiwr: Julie Macnamara​

Gwesteion: Natasha Hirst – DAC Chair, Jenny Sealy, Francesca Martinez, Rachel Starritt, Hilary McCollum, Wendy Jones, Deepa Shastri, Miss Jacqui, Claire Cunningham, Dr Vole, Mared Jarman, Edel Murphy, Kaite O’Reilly

Awtistiaeth - Y Genhedlaeth Nesaf - Sgwrs  Temple Grandin

​

Cawn sgwrs am sut i gynorthwyo meddyliau pobl awtistig, p'un a ydyn nhw'n beirianwyr neu'n artistiaid, yn dod o hyd i droedle pob unigolyn, gan roi'r holl addasiadau angenrheidiol iddyn nhw a'u helpu i ddatblygu eu sgiliau fel y gall y genhedlaeth nesaf o bobl awtistig ddod o hyd i'w ffordd yn y byd.

​

Gwesteiwr: Rachel Stelmach

Gwesteion: Temple Grandin, Gaia Redgrave, Rhi Lloyd-Williams, Grace Quantock

Diwrnod Rhyngwladol Anabledd - Ymgyrchu A Chelfyddydau

​

Mae artistiaid Anabl a Byddar yn gwneud ymgyrchwyr rhagorol. Mae eu profiadau byw yn siapio gweithgarwch celfyddydol sy'n dadlennu anghyfiawnderau cymdeithasol, sy’n adrodd gwirionedd nid chwedlau, gan fynd â llawer o bobl i mewn i ddealltwriaethau newydd am ein bywydau.

​

Gwesteiwr: Ruth Fabby MBE DL

Gwesteion: Barbara Lisicki, Deputy Minister and Chief Whip, Jane Hutt, Rhian Davies, Jon Luxton

Gweithgaredd Celfyddydau Pobl Ifanc Anabl / Byddar

​

Estynnodd DAC wahoddiad i sefydliadau Celfyddydol a Diwylliannol ledled Cymru i wybod mwy am weithio gyda phobl ifanc anabl a Byddar rhwng 16 a 30 oed. Mae'r drafodaeth hon yn ymwneud â'r hyn y gallwn ei nodi fel ffyrdd o weithio gyda phobl ifanc anabl a Byddar yn y dyfodol fel arweinwyr yn sector y celfyddydau.

​

Gwesteiwr: Miro Griffiths

Gwesteion: Jane Latham, Miranda Ballin, Menai Rowlands, Jake Sawyer, Danielle Marsden

Anabledd A'r Diwydiant Cerddoriaeth Rhan 2: Nodi Atebion Ac Arfer Gorau

​

Bu’r digwyddiad hwn yn trafod y cwestiynau canlynol; pam nad ydym yn gweld cynrychiolaeth deg o bobl anabl ar draws y diwydiant cerddoriaeth? Pam fod cerddorion neu gynhyrchwyr anabl talentog yn cael eu heithrio neu’n ofni cyfathrebu eu hanghenion mynediad?

​

Gwesteiwr: Lloyd Coleman

Gwesteion: Troi Lee, Ben Lunn, Sarah Lianne Lewis

Anabledd A'r Diwydiant Cerddoriaeth Rhan 1: Nodi Materion: Diwylliannol, Strwythurol, Corfforol

​

Bu’r digwyddiad hwn yn trafod y cwestiynau canlynol; pam nad ydym yn gweld cynrychiolaeth deg o bobl anabl ar draws y diwydiant cerddoriaeth? Pam fod cerddorion neu gynhyrchwyr anabl talentog yn cael eu heithrio neu’n ofni cyfathrebu eu hanghenion mynediad?

​

Gwesteiwr: Lloyd Coleman

Gwesteion: Gareth Churchill, Mark Pavey, Jo Thomas

Awtistiaeth - Ydyn Ni'n Lleiafrif Diwylliannol?

​

Trafodaeth banel yn cynnwys pobl awtistig. Mae ceisio cynnal yr un rhythm â’r mwyafrif niwro-nodweddiadol yn gallu bod yn dasg rhwystredig a blinedig. Dim ond 16% o oedolion awtistig sydd mewn gwaith amser llawn er gwaethaf y ffaith fod gan lawer ohonom IQ eithriadol o uchel a sgiliau a thalentau hynod ddatblygedig. Dyma ystyried sut deimlad yw bod yn y byd hwn a'r gwahaniaethau rhwng bod mewn cwmnïaeth niwro-nodweddiadol â chwmnïaeth awtistig.

​

Gwesteiwr: Rachel Stelmach

Gwesteion: Amy Richards, Selena Caemawr, Rhi Lloyd-Williams

Corrach A Moeseg Hiwmor

​

Pam fod pobl sy’n fyrrach na’r person ‘cyffredin’, pobl a anwyd ag amrywiaeth o gyflyrau o dan faner feddygol ‘corrach’, yn cael eu hystyried fel testun jôc, yn darged hawdd i wneud hwyl amdanynt. Fel plant bydd llawer ohonynt yn dioddef bwlio, rhai i'r fath raddau fel eu bod yn dod yn hunanladdol. Roedd y panel yn cynnwys amrywiaeth o leisiau, gan gynnwys pobl o'r Academia, unigolion o fyd cabaret a Phodcastio, ac Ymgynghoriaeth Cydraddoldeb Anabledd.

​

Gwesteiwr: Sara Beer

Gwesteion: Dr Erin Pritchard, Tammy Reynolds, Simon Minty

Discrimination2

​

Mae hiliaeth yn bodoli hyd yn oed o fewn y gymuned Fyddar, mae rhaniad diwylliannol sy'n dal i lechu ac yn gwahanu pobl Fyddar yn ôl lliw eu croen. Mae'r genhedlaeth hÅ·n yn gwybod hyn yn well na neb. Nawr, mae cyfle i addysgu pobl Fyddar iau i fod yn fwy chwilfrydig yn ddiwylliannol ac yn barod i gymysgu, oherwydd ei bod eisoes yn gymuned fach ac nid oes unrhyw reswm i'w gwahanu ymhellach.

​

Gwesteiwr: Jonny Cotsen

Gwesteion: Rinkoo Barpaga, Maral Mamaghanizedeth

bottom of page