top of page

Adnoddau a Rhwydweithiau Cymorth Cymuned Draws

  • cerys35
  • 7 days ago
  • 2 min read

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru bob amser yn sefyll gyda'n haelodau traws a'r gymuned draws. Rydym wedi llunio rhestr o adnoddau a rhwydweithiau cymorth sydd wedi’u lleoli yng Nghymru a’r DU y gobeithiwn y gallent fod o gymorth yn ystod yr adeg anodd hon:


Trans Aid Cymru:

Nod Trans Aid Cymru yw helpu pobl Drawsrywiol, Anneuaidd a Rhyngrywiol (TIN) trwy gyd-gymorth. Mae'r prosiect yn cael ei redeg gan bobl TIN ar gyfer pobl TIN, gan ei wneud yn gynhwysol a dealladwy o anghenion y gymuned.


Umbrella Cymru:

Mae gwasanaethau cymorth Umbrella Cymru yn cynnwys cymorth emosiynol, cymorth ymarferol, gwybodaeth a chyfeirio, gwasanaethau gwrando, ac eiriolaeth.


Switchboard:

Switchboard yw llinell gymorth genedlaethol LGBTQIA+. I unrhyw un, unrhyw le yn y wlad, unrhyw gyfnod yn eu taith.


TransActual UK:

Mae TransActual yn sefydliad cenedlaethol sy’n cael ei arwain a’i redeg gan bobl draws sy’n canolbwyntio’n benodol ar weithio i oedolion traws yn y DU.


Queer Emporium (Cardiff):

Yn cael ei weithredu bron yn gyfan gwbl gan aelodau traws / rhyngrywiol / anneuaidd o'r gymuned, mae The Queer Emporium yn gartref i rywiau lleiafrifol ac yn ymdrechu i greu man diogel cadarnhaol gyda digwyddiadau a gweithdai angenrheidiol ar gyfer y gymuned.


LLyfrau Lliwgar (Bangor & Cardiff):

Llyfrau Lliwgar (Colourful Books) is an LGBTQ+ book club which was founded in Bangor September 2021 and which later developed a branch in Cardiff September 2022. Both Bangor and Cardiff groups meet once a month to discuss various texts by LGBTQ+ authors or which include queer representation (even if the representation is not the best).


Snowdrops (West Wales):

Mae Snowdrops yn grŵp cefnogi hunangymorth sy'n gwasanaethu pobl Trawsrywiol ( M-F , F-M a rhyw niwtral) , eu partneriaid , teuluoedd a chyfeillion yn Sir Benfro a Gorllewin Cymru.


Rhwydwaith Trawsrywiol UNIQUE (Gogledd Cymru a Gorllewin Swydd Gaer):

Mae Rhwydwaith Trawsrywiol UNIQUE yn grŵp gwirfoddol sy'n cefnogi pobl drawsrywiol yn y Gogledd a Gorllewin Swydd Gaer.


Tawe Butterflies (Abertawe):

Mae Tawe Butterflies yn grŵp gyda aelodaeth am ddim , gyda dros 400 o aelodau, sy'n cefnogi trawsrywioldeb yn ardal Aberatwe.

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page