Mae Cyfres 2 Y Sîn gan Boom Cymru yn ddechrau ar ddydd Mercher 12 Mawrth am 8.25yh gyda nifer o'r penodau yn cynnwys aelodau DAC - Tomos Jones, Ffion Campbell-Davies, Gŵyl Fyddar Geltaidd, Paul Eastwood, a Sara Erddig!
Gallwch wylio'r cyfres ar S4C neu dal lan ar BBC iPlayer a S4C Clic.
Dyma'r crynodeb ar gyfer y bennod gyntaf:
Dyma gychwyn ail gyfres Y Sîn gyda Francesca Sciarrillo a Joe Healy, cyn enillwyr Dysgwyr y Flwyddyn yr Eisteddfod, yn bwrw golwg dros y sin creadigol ifanc yng Nghymru. Yn y bennod yma mi fyddwn yn dangos dawn anhygoel yr artist arwyddion traddodiadol Tomos Jones, cyfarfod yr artist arbrofol amlddisgyblaethol Ffion Campbell-Davies, yn chwerthin gyda’r digrifwr Laurie Watts yn Aberdâr ac yn dysgu sut mae Ynys Enlli yn ysbrydoliaeth gelfyddydol i’r artistiaid Lily Tiger a Sophia Goard.