Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad: Cyfle I Awduron Byddar A/Neu Anabl A/Neu Niwroamrywiol Ymuno  Chwrs Ysgrifennu Creadigol Digidol
Mae Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad yn gwrs digidol rhad ac am ddim ar gyfer awduron Byddar a/neu Anabl a/neu Niwroamrywiol sydd yn byw yng Nghymru. Trefnir y cwrs gan Llenyddiaeth Cymru mewn partneriaeth â Chelfyddydau Anabledd Cymru. Mae’r cwrs yn gyfres o 5 gweithdy digidol a sesiynau un-i-un, dan arweiniad y dramodydd a’r awdur o fri rhyngwladol Kaite O’Reilly.
Cynhaliwyd y cwrs am y tro cyntaf yn 2023 gyda 10 awdur yn elwa o’r profiad, ac mae Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Anabledd Cymru yn falch o gynnal y cwrs unwaith eto yn ystod gaeaf 2024 a gwanwyn 2025.
O’r dudalen hon, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y cwrs yn ogystal â gwybodaeth ymarferol ar sut i wneud cais. Ceir hefyd fanylion am rownd blaenorol Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad.
Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o weithio mewn partneriaeth â Celfyddydau Anabledd Cymru ar y cwrs hwn ac yn ddiolchgar am eu cefnogaeth.
Dyddiadau Pwysig:
Dyddiad Cau: 12.00 pm, dydd Iau, 29 Awst
Dyddiadau’r cwrs: 6, 13, 20, 27 Tachwedd 2024, gyda sesiynau un-i-un a’r gweithdy olaf yn cael eu cynnal ym mis Ionawr a mis Chwefror 2025.
Bydd y tiwtor yn penderfynu ar yr amser mwyaf cyfleus unwaith mae’r grŵp wedi cael ei benodi.
Sesiynau galw heibio: Dydd Mercher 24 Gorffennaf 1.00pm-2.00pm, Dydd Mawrth 6 Awst, 1.00-2.00pm.
Mae’r wybodaeth ar gael mewn print bras ac mewn ffurf dyslecsiagyfeillgar ar y dudalen Llawrlwytho Llenyddiaeth Cymru yma: https://www.llenyddiaethcymru.org/ein-prosiectau/ailddyfeisior-prif-gymeriad/ailddyfeisior-prif-gymeriad-llawrlwytho/