top of page

Amdani! Conwy: Hyfforddiant Mynediad a Chynhwysiant

Ymunwch â Amdani! Conwy am Hyfforddiant Mynediad a Chynhwysiant am ddim ar-lein o dan arweiniad Rachel Stelmach o Disability Arts Cymru.


Dydd Iau 12 Medi, 2 - 5 yp ar Zoom.



Bydd cyfranogwyr yn derbyn gwahoddiad i ddysgu am y Model Cymdeithasol o Anabledd a datblygu ffyrdd o weithio i gynnwys cydweithwyr, gwirfoddolwyr a chynulleidfaoedd anabl, anabl/byddar a niwrowahanol.


Mae cynnwys y sesiwn fel a ganlyn:

  • Cyflwyniad i Fynediad a Chynhwysiant

  • Model Cymdeithasol Anabledd ac ystyr ‘anabledd’.

  • Iaith a therminoleg (y da, y drwg a’r amheus)

  • Hygyrchedd a Chynhwysiant 101 - Deddf Cydraddoldeb 2010

  • Pwyntiau gweithredu i fynd i ffwrdd


Mae hwn yn ddigwyddiad am ddim sy’n agored i sefydliadau, gweithwyr llawrydd a gwirfoddolwyr. Rhoddir llawlyfr Mynediad a Chynhwysiant y gellir ei lawrlwytho i bob cyfranogwr ar ôl cwblhau.


Mynediad


Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar-lein dros zoom ac angen mynediad i gyfrifiadur a wifi. Bydd rhannau o’r sesiwn hon yn eich gwahodd i ryngweithio gyda’r hyfforddwr a chyfranogwyr eraill. Ni fyddwch yn cael eich gorfodi i gymryd rhan os na fyddwch yn teimlo’n gyfforddus.


Yn y sesiwn hon, byddwch yn clywed termau ac iaith sy’n negyddol ac yn gadarnhaol. Mae’r geiriau hyn yn gallu sbarduno, ond defnyddir at ddibenion hyfforddiant yn unig.


Bydd yna egwyl rheolaidd drwy gydol y sesiwn hon.


Os bydd gennych unrhyw anghenion mynediad sydd angen cefnogaeth ychwanegol, gallwch gysylltu â David Cleary, Swyddog Mynediad a Chynhwysiant.

Gwneud cais i rywun eich ffonio yn ôl drwy destun neu alwad: 07743932406


Related Posts

See All
bottom of page