Awdur: Rosaleen Moriarty-Simmonds OBE
Arddangosfa o bortreadau yn cynnwys Eiconau Cymreig (a’r rhai sydd â chyswllt eiconig â Chymru)
Mae’n bleser gennyf gadarnhau, ar ôl gweithio ar y prosiect hwn am dros dair blynedd, y bydd fy Arddangosfa “Portreadau Cymreig” yn cael ei chynnal rhwng 10fed a 13eg Ionawr 2025 yn Oriel Celfyddyd Gain Clarendon, Caerdydd.
Bydd yr arddangosfa’n cynnwys Actorion a Chwaraewyr hyd at ffigurau Brenhinol, gyda rhoddion wedi’u derbyn, a’r elw net a godwyd o werthu printiau, yn cefnogi gwaith gwerthfawr NSPCC Cymru yn eu hymgais i atal cam-drin ac esgeuluso plant.
Amserau agor i'r cyhoedd yw:
Dydd Gwener 10 Ionawr 2025 10.00yb - 4.00yp
Dydd Sadwrn 11 Ionawr 2025 10.00yb - 6.00yp
Dydd Sul 12 Ionawr 2025 11.00yb - 5.00yp
Dydd Llun 13 Ionawr 2025 10.00yb - 6.00yp
Rwy'n gobeithio y byddwch yn ymweld â'r arddangosfa ac yn sgwrsio â mi am fy ngwaith, sef baentio gan ddefnyddio fy ngheg yn unig. Byddaf yn yr Oriel ar y 11eg 12fed a 13eg Ionawr - 3yp-5yp.
Os na allwch gyrraedd yr arddangosfa, ond yr hoffech fy helpu i gefnogi NSPCC Cymru o hyd, anfonwch e-bost ataf rosie@rms-consultancy.co.uk, a byddaf yn gadael i chi wybod manylion cyfrif dynodedig sydd gennyf ar gyfer hwn.
Bydd eich cefnogaeth yn helpu i sicrhau "Mae Pob Plentyndod yn Werth Brwydro Drosto"