Awdur: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Gwahoddir chi yn gynnes i agoriad arddangosfa Erin Hughes, Nos Wener, Tachwedd 15eg, 6-8yh yn Oriel 2, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Mae arddangosfa Erin Hughes Llorio // Diffygiol yn nodi ei harddangosfa solo sefydliadol gyntaf, a gynhelir yn Oriel 2 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Mae'r arddangosfa arwyddocaol hon yn cyflwyno cymhlethdodau ei hymarfer collage faux-marble sy’n seiliedig ar broses.
Mae'r sioe yn cynnwys gweithiau 2D ar raddfa fawr a chollage llawr sy'n gorchuddio holl ofod yr oriel, gan ychwanegu at ddehongliad materoldeb ffug y gwaith celf. Mae taith ymchwil i’r 'Eglwys Farmor’ ym Modelwyddan, fideo ddogfennol a gomisiynwyd, a thestun i gydfynd â’r arddangosfa yn cwblhau’r gosodwaith.
Gwahoddir chi hefyd i Sgwrs Gyda’r Artist ar Ionawr 25ain, 5-6yh yn y Stiwdio Gron, yngyd â amrwyiaeth o weithdai- manylion i ddilyn ar ein wefan.
Mwy o wybodaeth: https://aberystwythartscentre.co.uk/erin-hughes-floored-flawed/