Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni'n rhoi sylw i waith anhygoel un o'n haelodau.
Artist y Mis ar gyfer mis Hydref yw Tracey McMaster!
Mae Tracey McMaster yn artist sy'n gweithio ar draws paentio a delwedd symudol.
Wrth siarad am ei gwaith, eglurodd McMaster:
“Rwy’n byw mewn ardal arfordirol yng Nghymru ac yn teimlo fy mod wedi fy ngwreiddio i fy amgylchedd, y môr, a’i straeon. Mae ffigurau a hunanbortreadau yn ymddangos yn fy mheintiadau, sy’n rhoi llais i themâu o fod a pherthyn. Mae’r ffigurau’n cael eu siapio gan chwedlau Celtaidd, pobl rydw i wedi cwrdd â nhw, ac atgofion o freuddwydion.
Rwy'n defnyddio paent ac arwyneb fel ffurf o adrodd straeon. Mae’r deunyddiau a’r technegau a ddefnyddiaf yn fy nghysylltu â lle rwy’n byw neu lle rwy’n gweithio ac yn adlewyrchu teimladau rwy’n eu profi, gan gynnwys trochi papur mewn dŵr môr, malu cregyn i ffurfio paent, a gadael paentiadau allan yn y glaw.
Rwyf hefyd yn creu gweithiau delwedd symudol lle rwy’n cysylltu ag unigolion yn y gymuned, gan fy mod eisiau ymchwilio i’r berthynas ddeinamig rhwng pobl a lle. Mae'r gweithiau delwedd symudol tua deng munud o hyd ac fe'u gwneir trwy gyfweliadau gyda'r cyfranwyr yn eu hamgylchedd nhw. Mae’r gweithiau hyn yn dathlu’r unigolyn unigryw, ei wybodaeth benodol, a sut mae hynny’n eu siapio.”
Mae McMaster wedi derbyn cyllid Camau Creadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC). Mae'r cyllid hwn wedi ei galluogi i ganolbwyntio ar ei hymarfer artistig tra hefyd yn gweithio tuag at fod yn fwy cynaliadwy.
Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar gorff newydd o waith i’w harddangos ym mis Chwefror 2025 mewn arddangosfa ar y cyd yn Cardiff MADE ac yn Elysium, Abertawe ar gyfer ‘Art in the Bar’.
Gallwch weld mwy o waith McMaster ar ei thudalen Instagram: @artoftracey