top of page

Artist y Mis Mawrth: Kaja Brown

Mae Artist y Mis yn nodwedd lle rydyn ni'n tynnu sylw at waith anhygoel un o'n haelodau.


Artist y Mis ar gyfer mis Mawrth yw Kaja Brown, awdur arobryn, newyddiadurwr ac actifydd croestoriadol sy'n byw yn Ne Cymru.


Mae Kaja yn archwilio themâu o gyfiawnder cymdeithasol, anabledd, iechyd meddwl, bywyd LHDT+ ac amgylcheddaeth yn ei gwaith ysgrifennu. Maent wedi eu cyhoeddi yn Atmos, Refinery 29, Shado Mag, Diva Magazine, The Welsh Agenda, Inclusive Journalism Cymru, a mwy. Dewiswyd Kaja ar gyfer Gwobr Artist Ifanc WLCOW 2024 am ei gwaith creadigol. Nhw hefyd yw Golygydd Adolygiadau Poetry Wales.


Mae Kaja wedi bod yn ysgrifennu ar gyfer cyhoeddiadau digidol a phrint ers bron i ddegawd bellach. Roedd eu gig ysgrifennu cyntaf yn Rife Magazine yn eu tref enedigol, Bryste. Roeddent wedi ysgrifennu cwpl o erthyglau ar gyfer Rife ac wedi gwneud cais i fod yn Grëwr Cynnwys gyda nhw yn ystod eu blwyddyn gap. Roedd eu cais am swydd yn cynnwys ‘erthygl’ greadigol tanseiliol am pam na ddylen nhw fod Arlywydd nesaf yr Unol Daleithiau - ond pam y dylent fod yn grëwr cynnwys ar gyfer Rife yn lle hynny (roedd hyn yn ystod etholiad America 2016).Roedden nhw'n teimlo mor bryderus yn y dyddiau cyn y cyfweliad wnaethon nhw bron heb fynd. Ond diolch byth y aethon nhw. Wnaethon nhw droi lan i'r cyfweliad mewn siwt las tywyll a gyda thandoriad - yn edrych yn cwiar heb ymddiheuriad ac yn fwy hyderus nag yr oeddent yn teimlo - a rhoddwyd y swydd iddynt yr un diwrnod.


Dechreuodd Rife Magazine yrfa Kaja. Dros chwech mis cawsant y cyfle i weithio gyda'r ysgrifennwr anhygoel Nikesh Shukla i ysgrifennu erthyglau, creu fideos youtube a chreu cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol. Sylweddolodd Kaja mai dyma'r tro cyntaf erioed iddynt deimlo'n hapus a bodlon. Roeddent wedi byw gydag OCD (heb ddiagnosis), iselder ac anhwylder gorbryder cyffredinol ers oeddent yn blentyn. Roedden nhw'n cael trafferth trwy'r ysgol a phrin wedi dod trwyddo'r chweched dosbarth. Ar ddechrau eu blwyddyn gap buont yn brwydro gyda agoraffobia, yn anaml yn gadael eu tŷ am fisoedd. Pan eu bod wedi'u cyfyngu i'w cartref gan eu salwch meddwl eu hunain, nid oedd Kaja yn siŵr os byddent byth yn llwyddo mewn unrhyw fath o yrfa. Ond roedd gweithio i gylchgrawn yn newid hynny i gyd. Roedd Kaja yn gwybod ar unwaith mai dyna roedden nhw eisiau ei wneud.


Gwnaeth Kaja eu BA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol

Aberystwyth a syrthiodd mewn cariad â Chymru, ac er iddynt astudio eu gradd Meistr yn yr Alban, daethant yn ôl i ymgartrefu yng Nghaerdydd yn 2022. Mae iechyd meddwl, anabledd a hunaniaeth yn rhywbeth y mae Kaja yn aml yn archwilio yn ei gwaith. Ysgrifennon nhw erthygl am anabledd ym maes gyhoeddi ar gyfer Inclusive Journalism Cymru ac aethant ymlaen i gyflwyno sgwrs am y pwnc yn Marginalised Writer’s Day yn Aberystwyth. Ysgrifennon nhw hefyd am y croestoriad rhwng bod yn cwiar ac anabledd mewn cysylltiad â'r etholiad cyffredinol yn y DU ar gyfer Queer AF a Diva Magazine


Yn ddiweddar, cafodd Kaja ddiagnosis o OCD a Blinder Cronig, dau salwch anweledig sydd wedi ei gwneud hi'n amhosibl gweithio'n llawn amser. Felly yn lle hynny penderfynodd Kaja gweithio'n llawrydd, ac mae wedi bod yn gweithio ar lawer o brosiectau cyffrous ers hynny. Maent yn Wehydd Rhwydwaith ar gyfer Newyddiaduraeth Gynhwysol Cymru, Golygydd Adolygiadau ar gyfer Poetry Wales, Darllenydd Preswyl yn y Stiwdio Gynaliadwy, dewiswyd i fod yn rhan o garfan Ailddyfeisio’r Prif Gymeriad, a buont yn breswylydd yn Peak Cymru.


Ar y 15fed o Fawrth (mis yma!) mae Kaja yn cydweithio gyda Inclusive Journalism Cymru i gynnal digwyddiad o'r enw ‘Networking with Neurodivergence’. Mae'r digwyddiad hwn yn agored i unrhyw un ond mae wedi'i anelu'n benodol at bobl greadigol niwro-ddargyfeiriol ac anabl. Mae Kaja yn gobeithio y bydd y digwyddiad hwn yn helpu i chwalu’r rhwystrau y mae hi wedi’u hwynebu’n aml drwy gydol ei gyrfa ei hun a rhoi’r cyfle i bobl rwydweithio ac uwchsgilio mewn amgylchedd diogel a chefnogol.


Beth nesaf?


Byddai Kaja wrth ei bodd yn cael rôl barhaol fel golygydd cylchgrawn, gan fod hyn yn rhywbeth sydd wedi dod â llawenydd iddi ers ei rôl gyntaf yn Rife Mag. Bydd Kaja yn parhau i eirioli dros gyfiawnder cymdeithasol a hawliau anabl yn ei gwaith ac mae bob amser yn barod i siarad am hyn ag eraill. Byddai Kaja hefyd wrth ei bodd i fod yn awdur cyhoeddedig. Mae hi wedi ysgrifennu llawysgrif llyfr Ffantasi oedolion ifanc wedi'i dodi yng Ngwlad yr Iâ sy'n canolbwyntio ar gymeriadau cwiar, anabl sydd ag OCD, pryder, agoraffobia, ADHD ac iselder. Mae Kaja yn gobeithio gallai cyrraedd pobl iau sy'n cydnabod gyda’r themâu yma trwy ysgrifennu'r llyfrau hyn ar gyfer cynulleidfa iau. Mae hi bob amser yn meddwl efallai pe bai hi wedi darllen llyfr a oedd yn dangos cymeriad gyda ‘Pure O’ yn ei harddegau, yna efallai na fyddai wedi cymryd 25 mlynedd iddi sylweddoli bod ganddi OCD. Mae Kaja yn teimlo bod cynrychiolaeth yn hollbwysig mewn byd sydd am ein dileu, a bydd bob amser yn ymdrechu i greu cynnwys sy'n helpu pobl yn y gymuned anabl i deimlo eu bod wedi'u hawdurdodi.


Gallwch ddilyn Kaja ar Instagram, BlueSky a LinkedIn a gweld eu portffolio llawn ar eu gwefan: https://kajabrown.com/



Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page