Bwrsari Ein Llais 2025 Mewn Partneriaeth â Ballet Cymru
- cerys35
- Apr 9
- 2 min read
Awdur: Rhwydwaith Ein Llais CIC
Dyddiad cau: 30/06/2025
Ar gyfer artistiaid o’r Mwyafrif Byd-eang sy’n awyddus i ddatbygu fel coreograffwyr.
Nod Bwrsari Ein Llais 2025 yw cefnogi 2 artist o’r Mwyafrif Byd-eang, am un flwyddyn, i ddatblygu fel coreograffwyr ac i feithrin cysylltiadau yn sector y celfyddydau yng Nghymru a fydd yn arwain at gyfleoedd i deithio a chyflwyno eu gwaith.
Dewisir 2 ymgeisydd llwyddiannus drwy broses agored, gan chwilio am y rhai hynny a chanddynt ymarfer coreograffig trylwyr a theg er budd y cyhoedd, a llai na dwy flynedd o brofiad mewn teithio eu gwaith.
Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn cymorth am flwyddyn (Medi 2025 – Awst 2026) yn y dulliau canlynol:
Sesiynau mentora misol gyda staff Ballet Cymru i gefnogi eu datblygiad fel coreograffwyr;
Cefnogaeth gan Krystal S. Lowe, artist a sefydlydd Rhwydwaith Ein Llais, yn cynnwys cymorth gyda llunio ceisiadau a CV, adborth ar syniadau, dod o hyd i waith a chyfleoedd, a meithrin cysylltiadau gyda phobl yn sector y celfyddydau i gefnogi datblygiad eu gyrfa;
Arddangosiad cyhoeddus o’u gwaith yn y digwyddiad Rhannu Ein Llais 2026 a gynhyrchir gan Krystal S. Lowe a’i gynnal yn Ballet Cymru; ynghyd â
Bwrsari o £600 i helpu gyda chostau ac amser i ddatblygu eu ffurf ar gelfyddyd.
Bydd Ballet Cymru hefyd yn gwneud pob ymdrech i gefnogi derbynwyr Bwrsari Ein Llais 2025 i gymryd rhan mewn cyfleoedd gwaith â thâl a chyfleoedd coreograffig drwy gydol y flwyddyn, yn Ballet Cymru neu rywle arall.
Pwy all ymgeisio?
Rhaid i ymgeiswyr fod o’r Mwyafrif Byd-eang*, yn angerddol dros greu gweithiau dawns er budd y cyhoedd, a bod â’r awydd i ffocysu ar ddatblygu fel coreograffwyr.
Rhaid i ymgeiswyr fod â llai na 2 flynedd o brofiad mewn cyflwyno a theithio eu gwaith eu hunain.
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi eu lleoli yng Nghymru.
Gall ymgeiswyr fod yn gweithio mewn unrhyw ffurf ar ddawns, ond rhaid iddynt fod ag ymarfer yn seiliedig ar symudiadau.
*Mae Rhwydwaith Ein Llais yn defnyddio’r term Mwyafrif Byd-eang ar gyfer y rhai sydd o, neu’n ddisgynyddion o, gyfandiroedd Affrica ac Asia.
Sut i ymgeisio
Anfonwch ebost at ourvoicenetwork.contact@gmail.com erbyn 30 Mehefin yn ymateb i’r sylwadau isod mewn dim mwy na 300 gair, neu trwy Fideo/Sain o ddim mwy na 4 munud:
Disgrifiwch pwy ydych chi, beth sy’n bwysig i chi yn y byd, a beth rydych chi’n mwynhau treulio amser yn ei wneud.
Dywedwch wrthym beth yw eich bwriad wrth rannu eich ymarfer coreograffig yn gyhoeddus.
Rhannwch pa gymorth yr hoffech ei gael er mwyn datblygu eich gyrfa fel coreograffydd.
Amserlen:
31 Mawrth – Ceisiadau ar agor
30 Mehefin – Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau
Gorffennaf – Cyfweliadau
4 Awst – Dewis yr ymgeiswyr llwyddiannus
30 Awst – Digwyddiad Croeso i dechrau blwyddyn y bwrsari
Ariennir Bwrsarïau Ein Llais 2025 gan Ballet Cymru.