top of page

Cais Am Theatr Stryd Gymraeg Yn Y Sblash Mawr: Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon

  • cerys35
  • Mar 24
  • 1 min read

Awdur: Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon

Closing date: 30/03/2025


Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon a’r Sblash Mawr am gefnogi darn theatr stryd newydd sbon awyr agored yn y Gymraeg ar gyfer Gŵyl Sblash Mawr 2025 yr haf hwn.


Mae gan y sefydliad £3000 ar gyfer artist neu gwmni i ddatblygu darn o theatr awyr agored sy'n addas i deuluoedd a all fod naill ai'n gyflwyniad statig neu grwydrol (neu ychydig bach o'r ddau). Mae'r ŵyl eleni yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 19 Gorffennaf a dydd Sul 20 Gorffennaf ac mae’n rhaid i'r artistiaid llwyddiannus A) Bod ar gael i berfformio hyd at 3 gwaith ar y ddau ddiwrnod a B) Creu a pherfformio'r gwaith o fewn y ffi a ddyrannwyd.


Dylai'r darn ddathlu'r Gymraeg, bod dim mwy nag 20 munud o hyd a bod yn addas ar gyfer cynulleidfa deuluol. Yn ogystal â'r ffi hollgynhwysol o £3000, gall Glan yr Afon gefnogi gyda gofod i ddatblygu'r darn.


Sut i Wneud Cais?

Mae'r cyfle yn agored i unrhyw un sy’n 18 oed neu’n hŷn, yn siarad Cymraeg neu'n awyddus i fagu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith, ac yn artist neu'n weithiwr llawrydd yn y sector creadigol, gyda phrofiad neu uchelgais o weithio yn sector y celfyddydau awyr agored.


Anfonwch ddisgrifiad byr aton ni ohonoch chi'ch hun neu’ch cwmni, eich syniad creadigol a pham eich bod yn credu y byddai'r gwaith hwn yn llwyddiannus mewn amgylchedd gŵyl celfyddydau awyr agored.


Dyddiad cau Dydd Sul 30 Mawrth. Anfonwch eich cais drwy e-bost i artsdevelopment@newportlive.co.uk


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page