top of page

Come As You Really Are I Abertawe Agored 2025

Awdur: Glynn Vivian


Dyddiadau Allweddol

  • Cyflwyno darnau o waith: 11:00-16:00 ddydd Iau 9 Ionawr, ddydd Gwener 10 Ionawr neu ddydd Sadwrn 11 Ionawr 2025           

  • Dyddiadau’r arddangosfa: 15.02.25 – 27.04.25


Mae’r artist arobryn Hetain Patel yn gwahodd y cyhoedd i ymuno â’r arddangosfa fwyaf o’n hoff hobïau yn Abertawe ym mis Chwefror.


Bydd arddangosfa boblogaidd Abertawe Agored yn dychwelyd i Oriel Gelf Glynn Vivian yn 2025 mewn fformat newydd cyffrous fel rhan o brosiect cenedlaethol Come As You Really Are. Mae’r prosiect a arweinir gan yr artist arobryn sy’n frwdfrydig dros Spider-Man, Hetain Patel ac Artangel, yn gwahodd yr holl wneuthurwyr, addaswyr, crefftwyr, casglwyr ac artistiaid o bob math i rannu eu hoff hobïau. Eleni, mae Abertawe Agored yn gwahodd preswylwyr Abertawe i gyflwyno eu gwaith i arddangosfa flynyddol sy’n ehangu ei chylch gwaith i gynnwys gwneuthurwyr, addaswyr a chasglwyr.


Mae’r arddangosfa’n agored i unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn Ninas a Sir Abertawe (SA1-SA9), ac mae’n dathlu hobïau fel ffordd o gyfleu ein creadigrwydd cynhenid ac fel dull hunanfynegiant.


Fel yn ystod blynyddoedd blaenorol, mae’r arddangosfa ar agor i ddisgyblaethau o baentiadau, cerfluniau, gwaith cerameg a darluniadau i emwaith, gwaith metel a thecstilau. Eleni ehangir y gwahoddiad i gynnwys sbectrwm ehangach o grefftau a diddordebau a allai gynnwys gwisg-chwarae, casglu, creu canhwyllau, rhwymo llyfrau a llawer mwy. Ni waeth beth sy’n mynd â’ch bryd, rydym am glywed ennych!


Caiff yr arddangosfa ei churadu gan Hetain Patel ar y cyd ag Oriel Gelf Glynn Vivian a bydd mewnbwn gan grwpiau cymuned ddysgu’r oriel.


bottom of page