Dydd Mawrth Medi 3, 5-6 yp
IAP: Cathryn McShane
Cofrestrwch: https://us02web.zoom.us/meeting/register/tZEtdumupz4sGNLwmSzZdjlFUH4av1PfzesP#/registration
Sgwrs gyda'r artist Delphi Campbell!
Mae Delphi Campbell yn gerflunydd amlddisgyblaethol, ei ymarfer wedi’i wreiddio mewn hunanbortread (meddal), ac yn berson graddedig o Ysgol Gelf a Dylunio Prifysgol Metropolitan Caerdydd a The Ruskin.
Mae perthynas Delphi â salwch cronig wrth wraidd ei gwaith. Mae'r gwrthrychau y mae'n eu cynhyrchu yn mapio pob agwedd o'i bodolaeth, yn amrywio o ddiagnosis clinigol i hoff sioeau teledu. Mae arfer Campbell yn adlewyrchu bywyd ar groesffordd; y profiadau crai a rheibus o fod yn ddynes hunan-cyhoeddedig efrydd, wallgof a cwiar, ochr yn ochr â’r llawenydd a’r cariad di-rwystr sy’n bodoli yn yr hunaniaethau hyn.
Mae salwch a bod yn cwiar yn cyd-fynd, gan ganiatáu i Delphi gofleidio salwch amryfal ar ffurf sy'n ymddangos yn arwynebol fel hwyl a gwacsaw, ond sy'n her fwy radical wrth wynebu'r naratif o fyw mewn corff 'othered', a syniadau o fod yn 'normal'.
Mae sioe unigol gyntaf Campbell, sy’n agor ar 28 Medi yn Cardiff MADE, yn plymio i’w phrofiadau byw; mae mynegiadau o atgofion, corff a meddwl yn cael eu trosi i elfennau sydd wedi’u crefftio’n unigol ac wedi’u ffurfio’n nyth cyffyrddol anferth, iteriad fel cnawd, pinc sy’n ffurfio mwy na chyfanswm eu rhannau. Mae synwyrusrwydd cwiar a camp y gwaith yn rhoi golwg claer a ddathliadol ar fod yn anabl, un sy’n gwneud ffrindiau â’i phoen, fel cynnig claer disglair; mae’n afael llawen ar ei sefyllfa sy’n radical, yn ddewr, ac yn bendant yn angenrheidiol.
Mae Cwrdd ar gyfer i gyd o'n haelodau. Mae’n gyfle i gwrdd ag aelodau DAC, rhannu eich gwaith, a chael sgyrsiau pwysig am gelfyddydau anabledd. Mae gan y rhan fwyaf o’n digwyddiadau Cwrdd hefyd siaradwr gwadd, gan greu lle i ddysgu mwy am eu gwaith a’u profiadau nhw tra hefyd yn gallu rhannu eich gwaith a phrofiadau eich hun.