top of page

Cyfleoedd Gwaith yn Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Awdur: Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru


Rydym wedi ymrwymo i greu gweithlu sy’n cynrychioli cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae pobl o gymunedau ethnig amrywiol, pobl sy’n ystyried eu hunain yn anabl, yn niwroamrywiol ac yn drawsryweddol, ac unigolion sy’n siarad Cymraeg, yn cael eu tangynrychioli, felly rydym yn awyddus i glywed gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn. Mae’r Coleg wedi ymrwymo i’w Strategaeth y Gymraeg a’i Diwylliant a bydd yn cynnig cymorth a hyfforddiant i'r ymgeisydd llwyddiannus i ddysgu Cymraeg.


Rheolwr Iechyd a Diogelwch - Y dyddiad cau yw 04/11/24


Mae Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn dymuno penodi Rheolwr Iechyd a Diogelwch profiadol ac amryddawn i gynorthwyo’r Pennaeth Gweithrediadau i ddarparu arweiniad, cefnogaeth a chymorth proffesiynol i hyrwyddo diwylliant iechyd a diogelwch gweithredol ledled y coleg.


Mae’r Rheolwr Iechyd a Diogelwch yn rhan o’r adran Gweithrediadau yn y coleg. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn darparu arweiniad, cefnogaeth a chymorth proffesiynol i gydweithwyr drwy ddatblygu a chydlynu trefniadau rheoli iechyd, diogelwch ac amgylcheddol yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.


Dirprwy Reolwr Rhaglenni Digwyddiadau Llogi - Y dyddiad cau yw 04/11/24


Bydd y Dirprwy Reolwr Rhaglenni Digwyddiadau Llogi yn chwarae rhan bwysig yn y tîm sy’n hyrwyddo, yn sicrhau, yn cynllunio ac yn rheoli rhaglen flynyddol gyffrous a datblygiadol o ddigwyddiadau llogi. Gan gydweithio’n agos gyda thimau technoleg, blaen tŷ, marchnata ac arlwyo proffesiynol y Coleg, bydd deiliad y swydd yn darparu amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, gan gynnwys perfformiadau, cyngherddau, seremonïau gwobrwyo, cynadleddau, derbyniadau, ysgolion haf, digwyddiadau proffil uchel, ymweliadau arbennig a dathliadau preifat. Bydd deiliad y swydd hefyd yn cefnogi Rheolwr Blaen Tŷ’r Coleg i recriwtio, hyfforddi a threfnu Cynorthwywyr Croesawu’r Coleg a, gyda’i gilydd, yn darparu lefelau rhagorol o ofal cwsmer i’n holl gynulleidfaoedd, ymwelwyr, gwesteion a chleientiaid.


Darlithydd mewn Theatr Dechnegol - Y dyddiad cau yw 07/11/24


Rydym yn chwilio am Ddarlithydd mewn Theatr Dechnegol am gyfnod penodol o flwyddyn.  Gan weithio ochr yn ochr ag Arweinydd y Cwrs ‘Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol’, bydd gofyn i ddeiliad y swydd ddarparu hyfforddiant o ansawdd uchel ar dechnegol a chynyrchiadau llwyfan, a hynny mewn modd diogel, effeithlon ac effeithiol.  Bydd unigolyn rhagweithiol a chreadigol yn gyfrifol am ddarparu amgylchedd dysgu o'r ansawdd uchaf posibl, gan gynnig cyfle i fyfyrwyr BA (Anrh) Rheoli Llwyfan a Theatr Dechnegol, MA Rheoli Llwyfan a Digwyddiadau a gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu Technegol ddatblygu eu potensial yn eu maes arbenigol.


Goruchwyliwr Bar Caffi - Y dyddiad cau yw 12/11/24


Mae ein cydweithwyr lletygarwch yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac rydym yn awyddus i benodi Goruchwyliwr Caffi Bar i ymuno â’n tîm.

 

Mae’r Goruchwyliwr Caffi Bar yn sicrhau bod safonau gweithredu’n cael eu cynnal a bod timau bach yn cael eu goruchwylio i ddarparu gwasanaethau caffi a bar effeithlon o ansawdd uchel yn ystod amrywiaeth cyffrous o ddigwyddiadau cyhoeddus a phreifat gan gynnwys perfformiadau, seremonïau graddio, derbyniadau VIP, priodasau, sesiynau ffilmio, ymweliadau brenhinol, ciniawa moethus a chynadleddau. Byddwch yn darparu gwasanaeth cwsmeriaid o'r radd flaenaf i'r cyhoedd, ein staff, ein myfyrwyr a'n rhanddeiliaid ehangach. Mae sicrhau bod disgwyliadau cwsmeriaid a safonau gweithredu yn cael eu bodloni gan dîm y bar yn ganolog i lwyddiant y swydd hon.


1 view
bottom of page