Awdur: Immersive Arts
Dyddiad Cau: dydd Llun 2 Rhagfyr 2024, canol dydd
Rhaglen gyllid a chymorth newydd sbon ar gyfer artistiaid yng ngwledydd Prydain yw Celfyddydau Ymdrochol, ac mae hi wedi’i dylunio i’w helpu nhw i dyfu eu hymarfer creadigol drwy dechnolegau ymdrochol—hynny yw realiti rhithwir, estynedig ac ymestynnol. Yn y bôn, y nod yw chwalu rhwystrau, gan wneud maes sy’n gallu bod yn eitha caeedig yn llawer mwy hygyrch i bawb.
Gyda £3.6 miliwn ar gael tan 2027, bydd Celfyddydau Ymdrochol yn cefnogi dros 200 o artistiaid yng ngwledydd Prydain drwy dair haen ariannu:
Archwilio – Os oes gennych chi ymarfer creadigol ond dim llawer o brofiad gyda thechnoleg neu gelfyddydau ymdrochol, gallech chi gael £5,000, cymorth ac arweiniad i archwilio a sbarduno gwaith meddwl newydd.
Arbrofi – Os ydych chi’n barod i ddod â’ch syniadau’n fyw a’u profi gyda chynulleidfa, gallech archwilio gweithdai wedi’u teilwra a chael £20,000.
Estyn – Os ydych chi eisoes yn gweithio ar brosiect celfyddydau ymdrochol, gallech gael £50,000 yn ogystal â mentora pwrpasol a chymorth arbenigol i ehangu eich gwaith a’i gyflwyno i gynulleidfa.
Mae’r rownd gyntaf o gyllid yn agor ddydd Iau 17 Hydref 2024, ac mae ar agor ar gyfer ceisiadau tan ganol dydd, dydd Llun 2 Rhagfyr 2024.
I ddysgu mwy, cofrestrwch ar gyfer gweminar Celfyddydau Ymdrochol nos Iau 15 Hydref, 5pm-6pm, cofrestrwch yma (bydd disgrifiadau sain yn y sesiwn yma)
Neu dewch i’r sesiwn alw heibio ‘Holi am hygyrchedd’ ddydd Mercher 30 Hydref, 11am-12pm, cofrestrwch yma