Digwyddiad lansiad BEYOND / TU HWNT a CLING FILM
- cerys35
- Apr 2
- 1 min read
Awdur: Lucent Dreaming
The Riverfront, 6yh, 10 Ebrill 2025
IAP: Cathryn McShane-Kouyaté
Rydym yn gobeithio y gallwch chi ymuno â ni yn Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yng Nghasnewydd ddydd Iau 10 Ebrill 2025 o 6pm i ddathlu cyhoeddi Cling Film gan Bethany Handley a Beyond / Tu Hwnt, blodeugerdd ddwyieithog o awduron Byddar ac Anabl o Gymru. Mae'r digwyddiad am ddim ac mae croeso i bawb.
Yn ogystal â darlleniadau gan Bethany a chyfranwyr i Beyond / Tu Hwnt, bydd Lucent Dreaming yn cynnal sesiwn holi-ac-ateb gyda golygyddion y flodeugerdd.
Mae Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon yn lleoliad hygyrch. Bydd hwn yn ddigwyddiad hamddenol gyda seibiannau rheolaidd wedi'u hamserlennu. Bydd Cathryn McShane-Kouyaté yn darparu dehongliad IAP/Cymraeg/Saesneg yn ystod y digwyddiad.
Bydd dewisiad o ddiodydd ysgafn ar gael wrth gyrraedd a bydd gwesteion hefyd yn gallu prynu lluniaeth o’r caffi. Bydd copïau o Cling Film a Beyond/Tu Hwnt hefyd ar werth ar y noson.
Rydym yn edrych ymlaen at eich gweld chi yna.
Cefnogir y digwyddiad hwn gan Theatr a Chanolfan Gelfyddydau Glan yr Afon, Cyngor Llyfrau Cymru a Chronfa Ysbrydoli Cymunedau Llenyddiaeth Cymru.
I gofrestru am eich tocyn rhad ac am ddim, ewch i: https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLScvKyMwKYiTA8la2plfN72mQWtJ25vC3_W0U1vdcuoHKBF9Rg/viewform?_ga=2.173367587.1468321420.1743595927-840273138.1743595927
Mwy o wybodaeth am flodeugerdd Beyond / Tu Hwnt a'r aelodau DAC wnaeth cyfrannu: https://www.disabilityarts.cymru/cy/post/beyond-tu-hwnt-blodeugerdd-o-ysgrifenwyr-cymraeg-byddar-ac-anabl