Awdur: Disability in Wales and Africa (DWA).
Pryd: Dydd Iau 5 Rhagfyr, 12 canol dydd - 1yp
Ble: Adeilad Tŷ Hywel Building & Ar-lein
Mae DWA yn cynnal digwyddiad IDPD yn Adeilad Tŷ Hywel i ddathlu gorchest a dyheadau’r Prosiect Rhannu Ein Stori (#SOS). Mae #SOS yn brosiect sy’n annog pobl ag anableddau o Gymru ac Affrica i rannu a thrafod eu profiadau byw er mwyn hybu cynhwysiant.
Bydd y digwyddiad ar 5 Rhagfyr 12, canol dydd tan 1yp, gyda chinio yn cael ei ddarparu wedyn, yn ystafelloedd cynadledda C a D ac yn hybrid, fel y gall pobl ymuno mewn person neu ar-lein. Bydd dolen yn cael ei darparu i bobl sy'n ymuno ar-lein yn nes at yr amser. Bydd cyfle hefyd i glywed am rai o’r straeon a’r trafodaethau sydd wedi digwydd.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys lansiad Adroddiad Gwerthuso #SOS, anerchiad gan Jane Hutt AS, a “thunderclap” ar y cyfryngau cymdeithasol i gefnogi #SOS. Mae gan y prosiect 60/70 o gyfranogwyr ac mae wedi cynhyrchu tua 250 o straeon.
Bydd hwn yn gyfle i ddod â Phobl Fyddar ac Anabl o Gymru ac Affrica at ei gilydd mewn arddangosiad o Undod Byd-eang. O ganlyniad, rydym yn awyddus i gael cynrychiolaeth dda o Fudiad Anabledd Cymru.
I gofrestru ac am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Paul Lindoewood: dwanetwork@gmail.com