Awdur: Canolfan Ffilm Cymru
Dwy swydd wag llawrydd:
Rheolwr Prosiect Llawrydd & Swyddog Marchnata Llawrydd
Mae Cronfa Lleoedd RCFf y BFI yn rhaglen beilot sydd wedi’i chynllunio i gynyddu ymgysylltiad y cyhoedd â chanolfannau sinema annibynnol. Mae’n defnyddio cyllid y Loteri Genedlaethol i helpu canolfannau i ddod yn fwy gweledol a hygyrch i’w cymunedau lleol. Mae Canolfan Ffilm Cymru yn un o dri lleoliad ledled y DU sydd wedi’i dewis i ymgymryd â’r fenter arloesol hon, sy’n cael ei harwain gan farchnata.
Rheolwr Prosiect Llawrydd, Cronfa Lleoedd RCFf y BFI
Dyddiad cau: 5yp, dydd Gwener 30 Awst 2024
Graddfa: £210 y dydd (bydd y Swyddog yn gyfrifol am dalu Treth ac Yswiriant Gwladol eu hunain)
Cytundeb: Uchafswm o 102 diwrnod (oddeutu 2 ddiwrnod yr wythnos rhwng Medi 2024 – Gorffennaf 2025)
Lleoliad: Gweithio o bell, ond mae angen i’r ymgeiswyr fod wedi’u lleoli yn Ne Cymru o fewn cyrraedd i Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd, gan fod hi’n ofynnol teithio i’r canolfannau partner. Mae gofod swyddfa ar gael yn Chapter yng Nghaerdydd.
Rydyn ni’n chwilio am reolwr prosiect profiadol i arwain ar gyflawni’r prosiect, mewn partneriaeth â thair canolfan (Neuadd Gwyn, Canolfan y Celfyddydau Taliesin ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen). Bydd y Rheolwr Prosiect yn datblygu strategaethau marchnata creadigol, gan sicrhau bod amcanion y gweithgareddau arfaethedig yn cael eu gwireddu.
Ceisiadau
Mae disgrifiad swydd llawn ar gael i’w lawrlwytho yma: https://canolfanffilmcymru.org/cy/swydd-wag-rheolwr-prosiect-llawrydd-lleoedd/
Gofynnwn i chi anfon CV a llythyr eglurhaol i hello@filmhubwales.org
Llenwch ffurflen (ar-lein) ffurflen Cyfle Cyfartal.
Sicrhewch eich bod yn cyfeirio at bob pwynt yn y fanyleb person.
Anfonwch eich gwybodaeth aton ni erbyn 5pm ddydd Gwener 30 Awst fan bellaf.
//
Swyddog Marchnata Llawrydd, Cronfa Lleoedd RCFf y BFI
Dyddiad cau: 5yp, dydd Gwener 30 Awst 2024
Graddfa: £190 y dydd (bydd y Swyddog yn gyfrifol am dalu Treth ac Yswiriant Gwladol eu hunain)
Cytundeb: Uchafswm o 125 diwrnod (oddeutu 2.5 diwrnod yr wythnos rhwng Medi 2024 – Gorffennaf 2025)
Lleoliad: Gweithio o bell, ond mae angen i’r ymgeiswyr fod wedi’u lleoli yn Ne Cymru o fewn cyrraedd i Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd, gan fod hi’n ofynnol teithio i’r canolfannau partner. Mae gofod swyddfa ar gael yn Chapter yng Nghaerdydd.
Rydyn ni’n chwilio am Swyddog Marchnata profiadol i gydweithio â thair canolfan (Neuadd Gwyn, Canolfan y Celfyddydau Taliesin ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen) a’r Rheolwr Prosiect ar gyflawni’r prosiect, i adnabod dulliau marchnata creadigol. Byddant yn arwain ar gyflawni gweithgareddau ym mhob lleoliad.
Ceisiadau
Mae disgrifiad swydd llawn ar gael i’w lawrlwytho yma: https://canolfanffilmcymru.org/cy/swydd-wag-swyddog-marchnata-llawrydd-lleoedd/