Galwad i addurno'r Gofod Tawel/Peoples Lair yng Ngŵyl Garrog - Dydd Sadwrn 7 Medi 2024
Creu Gofod Ymlacio neu Ofod Tawel Synhwyraidd
Cyfle i artist gosodwaith neu berson creadigol sy’n uniaethu o’r profiad byw o anabledd gan gynnwys pobl greadigol Fyddar a niwrowahanol, i gynhyrchu ac animeiddio pabell dawel ar gyfer Gŵyl Garrog eleni. Mae pabell ar gael a bydd yn cael ei chodi.
Bydd angen i’r gofod tawel fod yn esthetig dymunol, gan ddefnyddio lliwiau a décor sy’n creu esmwythder, diogelwch a heddwch ac wedi’i ddylunio fel y gall pobl o bob oed ymlacio drwy gydol yr ŵyl – 11 yb tan 5 yp.
Rhaid defnyddio'r gyllideb a gynigir i brynu'r holl ddeunyddiau, a chynnwys y ffi greadigol lwyddiannus a gynigir o £350.00
Os hoffech wybod mwy, cysylltwch â Ruth am drafodaeth bellach at ruth@ruffyarts.com erbyn 19 Awst 2024
Cyflwynwch syniadau erbyn 28 Awst 2024 trwy e-bost at: carudolgarrog@gmail.com – trwy ddilyn y penawdau isod;
Fformat ar gyfer cyflwyno yn ysgrifenedig neu ar fideo fel a ganlyn:
1. Enw
2. Manylion cyswllt [yn cynnwys ebost]
3. Beth yw eich profiad Creadigol hyd yn hyn?
4. Pam ydych chi’n meddwl bod gofod tawel yn bwysig?
5. Sut byddwch chi’n defnyddio’r gyllideb?
6. Beth hoffech chi ei gyflawni gyda chreu’r gofod tawel hwn?
Defnyddir cwestiynau 3 i 6 i asesu pob cais.
Rhoddir adborth i unrhyw ymgeiswyr aflwyddiannus.
Dolennau ymchwil: