Awdur: Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru
2pm, 4 Medi, ar-lein trwy Zoom.
Ar ddydd Mercher, Medi 4ydd bydd Archif Sgrin a Sain Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal gweithdy ar-lein am ffilmiau archifol.
Bydd y gweithdy'n canolbwyntio ar bynciau hygyrchedd a chynrychiolaeth, ac mae wedi'i anelu'n benodol at gyfranogwyr Byddar ac anabl.
Yn y gweithdy hwn byddwch yn clywed am Archif Sgrin a Sain Cymru, yn gweld clipiau ffilm o’r archif, ac yn cael cyfle i rannu eich profiadau o archifau a hygyrchedd.
Mae’r gweithdy’n rhan o brosiect o’r enw “Cymru Anabl” ac fe’i cefnogir gan arian treftadaeth sgrin y Loteri Genedlaethol y BFI. Fe’i cynhelir gan Nia ac Iola, sy’n gweithio yn yr Archif Sgrin a Sain.
Cynhelir y gweithdy ar-lein trwy Zoom. Bydd yn para 2.5 awr, gydag egwyliau. Bydd dehongliad BSL gan Cathryn McShane a Robyn Harris, a chapsiynau awtomatig.
I gofrestru neu am ragor o wybodaeth, anfonwch e-bost at Nia ar nia.edwards-behi@llyfrgell.cymru.