Cipolwg ar fywyd pobl y trychwyd eu his-aelodau yn Llundain Fictoraidd! Gallwch chi gyflawni eich nodau wrth i chi ddod o hyd i'ch ffordd drwy'r strydoedd, ymgynefino â'r farchnad swyddi, dod o hyd i gariad, prynu eiddo a defnyddio coesau artiffisial. Fyddwch chi'n blaenoriaethu cronni cyfoeth yn y Gyfnewidfa Stoc neu gyflawni eich nod personol yn yr Ystad Wledig? Chi sy'n dewis yn Legless in London, sef gêm bwrdd strategaeth rholio dis a symud a ysbrydolwyd gan lyfr Ryan Sweet yn 2022, Prosthetic Body Parts in Nineteenth-Century Literature and Culture.
Legless in London yw canlyniad cydweithrediad rhwng Focus Games Ltd. a Dr Ryan Sweet (Uwch-ddarlithydd yn y Dyniaethau, Prifysgol Abertawe), a grŵp ffocws sy'n cynnwys aelodau o'r gymuned anabl (gan gynnwys aelodau o Celfyddydau Anabledd Cymru).
Mae anabledd a hanes anabledd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y diwylliant — ac yn enwedig ym maes gemau pen bwrdd. Mae llawer o gemau pen bwrdd prif ffrwd hefyd yn achosi problemau o ran hygyrchedd i chwaraewyr anabl (er enghraifft, rheolau hirwyntog a/neu gymhleth, sy'n gallu bod yn drafferthus i ddefnyddwyr niwrowahanol). Mae Legless in London yn mynd i'r afael â phryderon o ran cynrychiolaeth a hygyrchedd oherwydd ei fod yn cynnig portread cytbwys, cadarnhaol a difyr o anabledd sydd wedi'i lywio gan ymchwil a hynny mewn fformat cynhwysol.
I ddathlu lansiad llawn y gêm, ymunwch â datblygwyr y gêm yn Common Meeple (77 Heol San Helen, Abertawe SA1 4BG) am 7pm nos Fercher 26/02/2025 i chwarae Legless in London am ddim! Darperir lluniaeth am ddim hefyd.
Cefnogwyd y gêm gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau [AH/X00354X/1, AH/Z506485/1].
Os oes gennych chi ymholiadau am y digwyddiad hwn, e-bostiwch r.c.sweet@abertawe.ac.uk.