top of page

Llamau breision yn 2025 gyda Camau Creadigol

Awdur: Cyngor Celfyddydau Cymru


Cefnogaeth gyda cheisiadau:

Rydym yn ceisio ein gorau glas i fod mor hyblyg â phosibl a rhoi cymorth ichi bob cam o'r ffordd. Byddwn yn cynnig arweiniad ichi am lunio eich syniadau a'ch cais i ddiwallu eich anghenion. Bydd y cymorth yn dod gan un o’n Swyddogion Datblygu ac, os byddwch yn dewis un, gan eich Mentor. Dysgwch mwy yma.


Mae cronfa Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer unigolion a sefydliadau celfyddydol sy'n debygol o brofi rhwystrau wrth ymgeisio am arian a chyfleoedd yn ailagor yn Chwefror 2025


Rydym yn gwybod bod modd gwneud rhagor i gefnogi artistiaid a sefydliadau o gymunedau ymylol sy’n wynebu rhwystrau ac yn ei chael yn anodd cael gafael ar arian. O ganlyniad, ailwampiwyd Camau Creadigol i roi cefnogaeth ac arian i'r cymunedau yma.


Ail-lansiwyd Camau Creadigol yn 2021 ac mae wedi cefnogi 26 sefydliad celfyddydol dan arweiniad bobl anabl neu amrywiol a 70 unigolyn ledled Cymru. 


Mae Camau Creadigol yn cefnogi sefydliadau ac unigolion sy'n fyddar, anabl, niwroamrywiol neu’n ethnig a diwylliannol amrywiol. Mae'r cynllun yn datblygu gwaith a busnes y sefydliadau a'r unigolion. 

 

Dywedodd Andrew Ogun, Asiant er Newid Cyngor Celfyddydau Cymru:


"Rydym am gyrraedd a chefnogi pobl fyddar, anabl, niwroamrywiol ac sy'n ethnig a diwylliannol amrywiol, boed yn artistiaid, staff mewn sefydliadau celfyddydol, sefydliadau sy'n cefnogi’n bennaf gymunedau a dangynrychiolir neu’n benderfynwyr. Mae ymchwil yn dangos nad yw’n harian yn cyrraedd y bobl felly. Nod Camau Creadigol yw goresgyn y rhwystrau a chefnogi pobl i ddatblygu eu gwaith neu eu sefydliadau.
"Mae'n ffordd wych o gysylltu â rhagor o gymunedau ac â phobl nad ydynt erioed wedi gweithio gyda’r Cyngor o'r blaen. Mae modd i bobl ddatblygu o ran arian, arweiniad, mentora a phrofiad."

Ar 7 Chwefror 2025 y bydd y gronfa yn ailagor. Bydd y rownd gyntaf yn cau ar 12 Mawrth 2025 i sefydliadau ac ar 27 Mawrth 2025 i unigolion. 


Mae modd i unigolion ymgeisio am £500-£7,500. 


Mae tair lefel ariannu i sefydliadau:

  • cam cynnar (£500-£10,000)

  • ail gam (£10,001-£50,000)

  • trydydd cam (£50,001-£75,000)


Arian wedi’i godi gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol at achosion da sy’n gwneud y cynllun yn bosibl.


Am ragor o wybodaeth am sut i ymgeisio neu drafod gyda ni a ydy’r gronfa’n gymwys ichi, cliciwch yma ar gyfer Camau Creadigol i Unigolion ac yma ar gyfer Camau Creadigol i Sefydliadau.


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page