Awdur: Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Dyddiad Cau: 30 Awst 2024
Galwad Agored i Artistiaid o Liw
‘Rydym yn edrych am 6 ymarferydd creadigol o liw i ymuno â ni ar raglen fentora 6-mis: Lluosogrwydd. Nod y rhaglen yw creu gofod cefnogol i artistiaid i archwilio natur amlochrog hunaniaeth a pherthyn gan roi cyfleoedd i ymgysylltu gyda chymuned o bobl greadigol amrywiol, y cyfle i ddatblygu’ch ymarfer artistig a darparu platfform ar gyfer trafodaeth ehangach o’ch gwaith trwy arddangosfa sylweddol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Ynglŷn â’r prosiect
Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a’r artist Jasmine Violet yn gweithio mewn partneriaeth fel rhan o brosiect ehangach yn dwyn y teitl Persbectif(au), ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru, i sicrhau newid sylweddol yn y modd y mae’r sector celfyddydau gweledol a threftadaeth yn adlewyrchu amrywiaeth ddiwylliannol ac ethnig ein cymdeithas.
‘Rydym wedi creu’r cyfleoedd hyn ar gyfer artistiaid o liw sy’n gweithio yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru gan ein bod yn dymuno dathlu’r cymunedau amrywiol sy’n ffurfio Cymru ar hyn o bryd, gan roi llwyfan i adrodd straeon nas mynegwyd a chreu ymatebion artistig sy’n cynrychioli croestoriad, lluosogrwydd, a bodoli rhwng tiroedd ac hunaniaeth. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar bwysigrwydd a pherthnasedd pobl o liw i’r gymuned Gymreig a’r effaith y maent wedi cael ar Gymru’r gorffennol a’r presennol.
Trwy ddarparu platfform i arddangos y gwaith creadigol a gynhyrchir fel rhan o’r prosiect, anelwn at greu trafodaeth gyda’r gymuned ehangach yng nghanolbarth Cymru a thu hwnt trwy raglen gyhoeddus o sgyrsiau a gweithdai. Mae’r prosiect yn ceisio herio ffyrdd cyfredol o feddwl trwy ymgysylltu â chymunedau i archwilio’r sector celfyddydau gweledol a threftadaeth trwy lens wrth-hiliaeth a dad-drefedigaethol.
Y Cyfle
Arweinir y prosiect gan yr artist Jasmine Violet, gyda sesiynau gweithdy yn cael eu cynnal gan fentoriaid arbenigol.
Trwy weithio gyda Jasmine, y mentoriaid a Ffion Rhys, curadur arddangosfeydd Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, ‘rydym yn anelu at roi cyfleoedd i artistiaid i:
Datblygu eu hymarfer creadigol mewn amgylchedd cefnogol o bobl greadigol a mentoriaid amrywiol.
Cymryd rhan mewn 6 gweithdy creadigol gyda mentoriaid arbenigol a fydd yn cyflwyno technegau ac ymarferion newydd, yn cynnwys serameg, creu printiau, perfformiad ac eraill.
Archwilio natur amlochrog hunaniaeth a pherthyn trwy gymryd rhan mewn deialogau a phrosiectau cydweithredol a thrwy feithrin cyfnewid cyfoethog o syniadau a safbwyntiau.
Creu gwaith newydd a fydd yn ffurfio arddangosfa sylweddol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Gweithioi’n agos gyda Jasmine a Ffion i guradu’r arddangosfa, gan wneud penderfyniadau ar ddehongli, marchnata a chynllunio rhaglen gyhoeddus.
‘Rydym yn cynnig
Ffi o £2,000 i greu gwaith newydd.
Costau deunydd a theithio
Ffi am gymryd rhan mewn digwyddiadau/gweithdai cymunedol
Cefnogaeth artistig a churadurol gan yr artist arweiniol Jasmine Violet a Ffion Rhys, curadur.
Arddangosfa yng Nghanoilfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Dyddiadau Allweddol
– Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 30ain Awst 2024
– Cyfweliadau 10fed Medi
– Cyfarfod cyntaf gyda’r grŵp o artistiaid – 23ain Medi
– Chwe sesiwn creadigol gyda mentoriaid artistig rhwng mis Hydref i mis Ionawr
– Cynllunio’r arddangosfa – curadurol, dehongli, marchnata a chynllunio rhaglen gyhoeddus gyda Jasmine a Ffion – Ionawr a Chwefror
– Arddangosfa Mawrth 2025
Manyleb y person
Artist o Ganolbarth neu Orllewin Cymru (cyfrennir at gostau teithio fel bo angen)
Artist o liw neu threftadaeth amrywiol yn ddiwylliannol ac o ran cenedl.
Artist sy’n ymgysylltu’n gymdeithasol ac yn wleidyddol gydag ymarfer sy’n archwilio natur amlochrog hunaniaeth a pherthyn.
Yn agored i artistiaid sy’n gweithio ym mhob cyfrwng a disgyblaeth.
Rhaid medru ymrwymo i’r rhaglen 6 mis lawn a’r arddangosfa ym mis Mawrth 2025.
Gweithio’n dda o fewn tîm, gan sicrhau profiad dysgu positif a rennir o fewn y grŵp o artistiaid, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth a’r gymuned ehangach.
Yn fodlon cymryd rhan mewn digwyddiadau ymgysylltu â’r gymuned gan gynnwys teithiau a sgyrsiau sy’n meithrin cysylltiadau a thrafodaethau newydd rhwng cymunedau gan arwain at well ddealltwriaeth o ddiwylliannau ei gilydd.
*’Rydym yn diffinio ‘artist o liw’ ac ‘amrywiol yn ddiwylliannol ac o ran cenedl’ fel:
Unrhyw un o’r diaspora Affricanaidd, Asiaidd, Caribïaidd, Sbaenaidd, Latino, Dwyrain Ewrop neu’r Dwyrain Canol yng Nghymru.
Unrhyw un sy’n uniaethu fel aelod o grŵp ethnig nad yw’n Wyn yn unig.
Unrhyw un o Gymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Sut i gyflwyno cais
Anfonwch atom os gwelwch yn dda:
– Datganiad artist sydd yn disgrifio eich ymarfer a cynnig sydd yn amlinellu:
paham yr hoffech fanteisio ar y cyfle hwn a paham mai ‘nawr yw’r amser iawn i chi.
sut mae’ch gwaith yn cydfynd â themâu perthyn, hunaniaeth, a lluosogrwydd.
beth ydych yn gobeithio ennill neu gyflawni.
sut ydych yn bwriadu defnyddio’r arian i greu gwaith newydd ar gyfer yr arddangosfa.
– 5 delwedd o waith diweddar a dolen i wefannau/gwaith ar-lein os yn bosibl.
– CV/Crynodeb yn cynnwys arddangosfeydd perthnasol, prosiectau, a phrofiad proffesiynol.
Anfonwch eich cais erbyn Awst 30ain i multiplicity@aber.ac.uk
‘Rydym yn hapus i dderbyn ceisiadau trwy ddogfen destun neu ffeil awdio
Os oes gennych unrhyw gwestiynau – cysylltwch â ni ar multiplicity@aber.ac.uk
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais ac archwilio’r amrywiaeth gyfoethog o bersbectifau a fydd yn siapio’r prosiect Lluosogrwydd.