Awdur: Kat Watkins, Anabledd Cymru
Kat Watkins ydw i a fi yw’r Swyddog Prosiect Mynediad at Wleidyddiaeth.
Ers tro byd mae gwir angen wedi bod i Wleidyddiaeth fod yn fwy cynhwysol a chynrychioladol o bobl Fyddar a phobl anabl. Mae’r Rhwydwaith Llawr Gwlad Mynediad at Wleidyddiaeth yn ceisio mynd i’r afael â hyn. Bydd yn datblygu’r gwaith hollbwysig a gafodd ei wneud yn y Gronfa Mynediad i Swyddi Etholedig Cymru cyn Etholiadau 2021 y Senedd ac Etholiadau 2022 Llywodraeth Leol. Ei nod yw cael rhagor o bobl Fyddar a phobl anabl i fod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth a chymryd rhan mewn gwleidyddiaeth gan sefyll i gael eu hethol ar lefel genedlaethol a lleol yng Nghymru.
Mae’r prosiect hwn yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru a bydd iddo sawl gwedd ac mae nifer o weithgareddau gwahanol ar y gweill:
- Creu Rhwydwaith Gwleidyddiaeth Pobl Anabl trawsbleidiol
o Darparu cefnogaeth gan gymheiriaid
o Datblygu'r wybodaeth a’r sgiliau i sefyll fel ymgeiswyr effeithiol
o Darparu hyfforddi a mentora
- Creu Siarter Mynediad at Wleidyddiaeth Cymru
o Wedi’i gyd-gynhyrchu gyda rhai yn y Rhwydwaith i roi gwybod am yr arferion gorau i bob Plaid Wleidyddol yng Nghymru
o Gweithio gyda phob Plaid Wleidyddol i sicrhau ymrwymiad i weithredu’r Siarter
- Creu pecynnau cymorth arferion gorau
o Darparu gwybodaeth ymarferol am bynciau fel cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth a sefyll am swydd etholedig
- Eirioli dros hawliau Pobl Anabl er mwyn iddynt gymryd rhan lawn ac effeithiol mewn bywyd gwleidyddol
o Glynu wrth Erthygl 29 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl Anabl
Dylai pobl Fyddar a phobl anabl sydd â diddordeb mewn Gwleidyddiaeth a/neu wybod rhagor, gysylltu â mi ar kat.watkins@disabilitywales.org