top of page

Peak Cymru: Cyfle comisiwn i artistiaid newydd (18-30 oed)

  • cerys35
  • Mar 26
  • 1 min read

Awdur: Peak Cymru


Platfform 2, Gorsaf Drenau’r Fenni


Ffi artist o £2500 + chyllideb deunydd


Dyddiad cau 9am 14 Ebrill 2025


Rydyn ni’n falch o gael rhannu cyfle i gasgleb neu artist rhwng 18 a 30 oed, sy’n byw neu’n gweithio o fewn awr i safleoedd Peak, greu gwaith celf ar gyfer ffenestri gofodau Platfform 2 Peak. Dyma fydd y trydydd comisiwn, a’r comisiwn olaf, yn nhymor 2024-25, yn dilyn gwaith comisiwn Cymraeg Ddrwg gan Ffion Williams a Place of Transit gan Zeta Zentella, sy’n cael ei arddangos ar hyn o bryd.


I siapio’r alwad agored, rydyn ni wedi cydweithio gyda’r awdur a’r artist Kandace Siobhan Walker, a gafodd ei magu ar y gororau cyfagos.


Pan fydd ffiniau’n cael eu llunio, mae agoriadau’n cael eu creu. Mae’r frwydr i ddiffinio pwy a ble ydyn ni yn gallu bod yn drawsnewidiol, gan newid ein dealltwriaeth o hunaniaeth a lle.


Pam mae gororau yn aml yn safleoedd o wrthsafiad, adenilliad ac adnewyddiad?


Pa ffurfiau diwylliannol, ieithyddol ac artistig unigryw sydd wedi tarddu o ororau?


Pa bosibiliadau gwyllt a rhyfedd sydd wedi deillio o’r tensiwn yma — a beth arall allai godi ohono?


Lawrlwythwch y canllawiau llawn drwy ein gwefan a chysylltwch â cerian@peak.cymru os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, os ydych chi eisiau trafod syniad, neu i gael cymorth i wneud cais.


Ffurflen Google fer yw’r mynegiant o ddiddordeb, ac rydyn ni’n croesawu ffyrdd eraill o gyflwyno’ch syniad (gweler y canllawiau). Mwy: https://www.peakcymru.org/news

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page