top of page

Recriwtio Cadeirydd ac Ymddiriedolwyr i’r Bwrdd Rheoli: Llenyddiaeth Cymru

  • cerys35
  • Mar 26
  • 1 min read

Awdur: Llenyddiaeth Cymru


Mae Llenyddiaeth Cymru yn cael ei lywodraethu gan Fwrdd Rheoli Ymddiriedolwyr. Mae’r Bwrdd yn cyfarfod yn ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn ac yn cyfrannu at ddatblygiad strategol pellach fel rhan o weithgorau. Mae ein Bwrdd yn atebol i gyfraith elusennol ac yn sicrhau ein bod yn gweithredu yn unol â’n hamcanion elusennol a’n Cynllun Strategol 2022-27 ehangach, a bod ein cyllid a’n hadnoddau yn cael eu rheoli’n effeithiol.


Mae Ymddiriedolwyr y Bwrdd yn cynrychioli ystod eang o gefndiroedd, sgiliau a phrofiadau ac yn dod o sawl sector amrywiol, gan gynnwys awduron ac ymarferwyr creadigol, ymgynghorwyr a thrafnidiaeth, y byd academaidd ac addysg.


Mae Ymddiriedolwyr yn gwasanaethu ar y Bwrdd Rheoli fel unigolion annibynnol; nid ydynt yn cynrychioli buddiannau’r sefydliadau neu’r sectorau y maent yn gweithio ynddynt. Mae Ymddiriedolwyr yn gwasanaethu am dymor o dair blynedd i ddechrau, gydag opsiwn i wneud cais am estyniad am dair blynedd ychwanegol.


Ar hyn o bryd mae gan Fwrdd Rheoli Ymddiriedolwyr Llenyddiaeth Cymru 12 aelod, ac mi fydd ein Cadeirydd presennol, Cathryn Charnell-White yn ymddeol diwedd 2025.


Rydym felly am benodi Cadeirydd newydd â gweledigaeth, yn ogystal â hyd at dri Ymddiriedolwr newydd deinamig, ymroddedig a chreadigol.


Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais i ymuno â’n Bwrdd, cysylltwch ag Ysgrifennydd y Cwmni, Alys Lewin (alys@llenyddiaethcymru.org) am sgwrs anffurfiol. Gallwch weld mwy am y rôl a’r cyfrifoldebau yn y pecyn isod.


Dyddiad Cau: Dydd Mercher 9 Ebrill


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Whatsapp
  • Instagram
  • Facebook

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page