top of page

Rêf Celf - Gweithdi am ddim ar gyfer oedolion creadigol

Gweithdy: 14:00-16:00, 09/11/2024

Dyddiad cau: 06/11/2024



Hygyrch a Chyswllt:

Fydd Dehonglydd BSL ar gael.

Am fwy o wybodaeth ac i drafod gofynion hygyrchedd, cysylltwch â Bridie: 07852157033 stiwdio.c@gmail.com


Mae Bridie Doyle-Roberts a Stiwdio-C yn awyddus i gysylltu ag artistiaid o Gymru a hoffai archwilio hygyrchedd a Chymraeg yn eu gwaith i gymryd rhan mewn gweithdy am ddim. Mae'r gweithdy hwn yn rhan o brosiect o'r enw Rêf Celf; prosiect blwyddyn o hyd a ariennir gan Llais y Lle i hyrwyddo'r defnydd o iaith a chysylltiad a diwylliant Cymraeg drwy'r celfyddydau. Mae prosiect Bridie yn archwilio hunaniaeth gyfoes Gymreig o safbwynt pobl greadigol sy'n uniaethu fel byddar, yn anabl neu'n niwroamrywiol. Mae'r gweithdy agored hwn ar gyfer artistiaid o unrhyw ddisgyblaeth i ddod at ei gilydd i chwarae, arbrofi, creu a chydweithio â diwylliant Rêf a mynediad creadigol wrth ei wraidd.


Yn dilyn y gweithdy hwn efallai y bydd cyfleoedd i gymryd rhan bellach yn y prosiect.

Fydd y prosiect yn dod i ben gyda pherfformiad theatrig trochol yn y gwanwyn 2025.


Ynglŷn Bridie Doyle-Roberts


Arweinir y prosiect hwn gan Bridie Doyle-Roberts, sy'n artist aml-ddisgybledig y mae ei waith yn cynnwys arweinyddiaeth greadigol ac adeiladu cymunedau. Mae Bridie yn artist llawrydd yn creu waith clustogwaith ac mae'n gweithio fel Asiant dros Newid i'r prosiect Craidd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae Bridie yn rhannol ddall.


Byddai Bridie wrth ei fodd yn clywed mwy amdanoch chi a'ch ymarfer creadigol, felly cysylltwch â ni drwy e-bost, fideo byr neu recordiad llais i gyflwyno eich hun a'ch diddordeb yn y gweithdy hwn.


2 views
bottom of page