top of page

Swansea Shorts - Arddangosfa Gwneuthurwyr Ffilm, Canolfan Celfyddydau Taliesin

Awdur: Canolfan Celfyddydau Taliesin

Dyddiad cau: 1af Chwefror 2025


Yn galw ar holl wneuthurwyr ffilm Abertawe!!! Bydd Canolfan Celfyddydau Taliesin yn cynnal noson i ddathlu talent leol fis Mawrth nesaf ac yn gwahodd cyflwyniadau o ffilmiau hyd at 10 munud o hyd.


Y categorïau yw Ffilm Gyntaf, Dogfen, Ffuglen a chategori Agored ar gyfer animeiddiadau  a/neu greadigaethau eraill. Bydd 10/12 o ffilmiau yn cael eu dewis a’u dangos yn sinema Taliesin ar y 10fed o Fawrth lle byddwn yn croesawu cynulleidfa i ddod i gefnogi gwneuthurwyr ffilm leol. Yn cynnwys rhai sy'n gwneud eu ffilmiau cyntaf ynghyd a chrewyr mwy profiadol, edrychwn ymlaen at dderbyn a rhannu eich gwaith ar y sgrin fawr!


Cyflwyniadau ar agor tan Chwefror 1af 2025

Digwyddiad Arddangos: 10fed Mawrth 2025

 

Sut i Ymgeisio:


Anfonwch eich enw llawn a manylion cyswllt gyda chrynodeb o'ch gwaith i community@taliesinartscentre.co.uk. Os gwelwch yn dda, llwythwch eich ffilm i lwyfan gwe fel Youtube neu Vimeo ac anfonwch ddolen breifat atom i wylio'ch cyflwyniad. Rhowch wybod i ni ym mha gategori yr hoffech i'ch ffilm gael ei chynnwys. Dylai'r ffilmiau bod eich gwaith chi eich hun a chael caniatâd y rhai sydd wedi gwneud y ffilm gyda chi neu sydd wedi ymddangos ynddi er mwyn iddi gael ei hystyried.


Byddwch yn derbyn ymateb erbyn y 14eg o Chwefror os ydych wedi cael eich dewis, ac yna byddwn yn gofyn am y ffeil ffilm lawn.


Pob lwc!


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page