top of page

Swydd Wag Anabledd Cymru: Swyddog Polisi ac Ymchwil

Awdur: Anabledd Cymru

Dyddiad cau: 12 yp (canol dydd), Dydd Llun 21 Hydref


A oes gennych yr hyn sydd ei angen i fod yr aelod nesaf i dîm Anabledd Cymru? Rydym yn chwilio am berson anabl i gynrychioli AC fel Swyddog Polisi ac Ymchwil.


Bydd y swydd barhaol hon yn eich cyflwyno i dîm deinamig a chefnogol.

Rydyn ni’n griw bach ond nerthol, sy’n ymroddedig i ymdrechu dros hawliau a chydraddoldeb pob person anabl.


Teitl y swydd: Swyddog Polisi ac Ymchwil

Cyflog: Pwynt Graddfa’r NJC 23-25 £32,076 – £33,945 pro rata

Oriau: 21 awr yr wythnos

Man gwaith: Gweithio o bell gyda swyddfa yn Sbarc/Spark, Caerdydd

Yn atebol i: Rheolwr Datblygu Busnes a Phartneriaethau

Contract: Parhaol (yn amodol ar gyllid)

_________________________________________________________

Dyddiad cau: 12yh (hanner dydd) Dydd Llun 21ain o Hydref.

Cyfweliadau: Dydd Mercher 30ain Hydref.


Fel Swyddog Polisi ac Ymchwil, byddwch yn sbarduno newid effeithiol mewn polisi cyhoeddus ac yn dylanwadu ar lunwyr polisi allweddol drwy ddatblygu safbwyntiau polisi cadarn sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Bydd y swydd hon yn integreiddio’r safbwyntiau polisi hyn â gweithgareddau dylanwadu, ymgyrchu a chyfathrebu strategol i hyrwyddo cenhadaeth, nodau ac amcanion Anabledd Cymru.


Cyfrifoldebau allweddol:

  • Datblygu ac ymchwilio i bapurau polisi a chynhyrchu adroddiadau i lywio ymgyrchoedd Anabledd Cymru a safbwyntiau polisi

  • Casglu data, dylunio, dosbarthu a dadansoddi arolygon aelodau

  • Cymryd rhan mewn ymgynghoriadau ac ymchwiliadau seneddol a’r llywodraeth ac ymateb iddynt

  • Cynrychioli Anabledd Cymru ar grwpiau a rhwydweithiau rhanddeiliaid


Diddordeb? Mae’r cyfan sydd angen i chi ei wybod, gan gynnwys y disgrifiad swydd llawn a manyleb y person, i’w weld yma: https://www.disabilitywales.org/swydd-wag-swyddog-polisi-ac-ymchwil/?lang=cy


Fel arall, gallwch gysylltu â ni am becyn cais yn eich fformat dewisol.

Ffôn: 029 2088 7325

2 views
bottom of page