top of page

Swydd wag: Cydlynydd Marchnata Aelodau Canolfan Ffilm Cymru (CFfC)

Awdur: Canolfan Ffilm Cymru (CFfC)


Dyddiad Cau ar gyfer ceisiadau: Dydd Iau 13 Mawrth, 5.30pm

Cynhelir cyfweliadau: Dydd Llun 24 Mawrth unai yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, Caerdydd


  • Cyflog: £26,353 (dyfarniad cyflog i ddod)

  • Cytundeb: Ebrill 2025 – 31 Mawrth 2026, (yn amodol ar gyfnod prawf o 3 mis)gyda'r potensial i ymestyn, yn amodol ar gadarnhad o gyllid blynyddol.

  • Oriau: 40 awr yr wythnos (TOIL). Mae peth gwaith gyda’r nos ac ar benwythnosau yn angenrheidiol i’r swydd

  • Lleoliad: Hybrid. 1 - 2 ddiwrnod gwaith yr wythnos yn Chapter yng Nghaerdydd a/neu gyfarfodydd oddi ar y safle


Diben y Swydd:


Cefnogi’r Ganolfan a’i haelodau i ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer sinema annibynnol Brydeinig a rhyngwladol, a hynny ledled Cymru, drwy waith marchnata ac allgymorth. Mae hyn yn cynnwys prosiect 'spotlight' penodol yng Ngogledd Cymru a marchnata B i B o gyfleoedd i aelodaeth y Ganolfan.


Ceisiadau:

  • Mae disgrifiad swydd llawn ar gael i’w lawrlwytho yma. Ni allwn dderbyn CVs.

  • Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses o wneud cais cysylltwch os gwelwch yn dda gyda apply@chapter.org

  • Llenwch ffurflen (ar-lein) ffurflen Cyfle Cyfartal.

  • Sicrhewch eich bod yn cyfeirio at bob pwynt yn y fanyleb person.

  • Ni fyddwn yn gallu cyfarfod gydag ymgeiswyr unigol cyn y cyfweliad.


Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page