Awdur: Theatr y Sherman
Mae Theatr y Sherman yn chwilio am unigolyn deinamig sy’n canolbwyntio ar y cwsmer i lenwi swydd barhaol, llawn amser o fewn tîm y Swyddfa Docynnau. Bydd Goruchwylydd y Swyddfa Docynnau yn cefnogi Rheolwr y Swyddfa Docynnau drwy ddirprwyo yn eu habsenoldeb tra’n cyflawni dyletswyddau craidd y Swyddfa Docynnau gan gynnwys darparu’r safonau uchaf o wasanaeth cwsmeriaid, gwneud y mwyaf o gyfleoedd gwerthu, cynorthwyo gyda gweithgareddau marchnata, a gwneud y gorau o swyddogaeth Derbynfa Theatr y Sherman.
Dyddiad cau: 12 hanner dydd, dydd Gwener 13 Medi 2024.
Cyfweliadau: Dydd Iau 26 Medi 2024
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch cyn i chi wneud cais, cysylltwch â ni drwy e-bostio recruitment@shermantheatre.co.uk.
Rydyn ni eisiau i Theatr y Sherman fod yn hygyrch i bawb ac felly mae’n hynod bwysig i ni fod ein tîm yn y theatr yn adlewyrchu’r cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu ar draws y ddinas a thu hwnt. Rydym felly’n croesawu’n arbennig ymgeiswyr o gymunedau ethnig amrywiol a chymunedau B/byddar ac anabl sy’n cael eu tangynrychioli o fewn ein tîm ar hyn o bryd. Mae ein hadeilad yn hygyrch i gyrraedd Blaen y Tŷ a chefn llwyfan.
I wneud cais am y swydd, lawrlwythwch y pecyn ymgeisio, y ffurflen gais a'r ffurflen monitro cyfle cyfartal a'u hanfon at recruitment@shermantheatre.co.uk.
Dysgwch fwy a lawr-lwythwch y pecyn cais yma: https://www.shermantheatre.co.uk/job/goruchwyliwr-y-swyddfa-tocynnau-2/?lang=cy