Swyddi Wag yn Theatr y Sherman
- cerys35
- 7 days ago
- 1 min read
Awdur: Theatr y Sherman
Mae Theatr y Sherman yn recriwtio Rheolwr Gweithdy ac yn recriwtio ar gyfer dwy rôl yn eu Hadran Farchnata.
Rheolwr Gweithdy
Rheolwr y Gweithdy sy’n gyfrifol am reoli a darparu gwasanaethau gweithdy Theatr y Sherman yn effeithiol ac yn effeithlon. Bydd deiliad y swydd yn Rheolwr yn Adran Gynhyrchu’r cwmni, ac felly bydd disgwyl iddynt wneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad yr adran a’r Theatr. Mae Theatr y Sherman yn anelu tuag at yr ansawdd uchaf yn ei gwerthoedd cynhyrchu ac wrth ddarparu gwasanaethau gweithdy, a bydd gan ddeiliad y swydd ran allweddol yn y gwaith o gyflawni targedau ansawdd a datblygu a chynnal safonau.
Dyddiad Cau: Dydd Mawrth 6 Mai
Mwy a sut i ymgeisio: https://www.shermantheatre.co.uk/job/workshop-manager/?lang=cy
--
Rheolwr Marchnata:
Bydd y Rheolwr Marchnata yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gysylltu â chynulleidfaoedd yn y de-ddwyain a’r tu hwnt, gan gynyddu incwm ac adrodd stori’r theatr gynhyrchu flaenllaw yma.
Dyddiad Cau: Dydd Mawrth 13 Mai
Mwy a sut i ymgeisio: https://www.shermantheatre.co.uk/job/rheolwr-marchnata/?lang=cy
--
Swyddog Marchnata:
Bydd y Swyddog Marchnata yn cefnogi gwaith Theatr y Sherman i gysylltu â chynulleidfaoedd ar draws y de-ddwyrain a’r tu hwnt ac i greu incwm.
Dyddiad cau: Dydd Mawrth 13 Mai
Mwy a sut i ymgeisio: https://www.shermantheatre.co.uk/job/41698-2/?lang=cy