Profiad sonig pwerus o ymgolli mewn disgwyliada newidiol.
Gan Mark Anderson. Wedi’i greu ar y cyd â Liam Walsh.
Byd-sain swynol sy’n dod yn fyw drwy berfformiad byw awyr agored sy’n newid yn barhaus. Gan ddefnyddio ensemble o ‘offerynnau’ sy’n weledol drawiadol - gongiau, clychau, chwibanau a digwyddiadau ffrwydrol - mae Warning Notes yn rhoi llais i’r larwm cymdeithasol ac ecolegol sy’n canu ar draws ein planed. Gwahoddiad chwareus a llesmeiriol i graffu ar ein dyfodol gyda’n gilydd.
I bawb - o blant i oedolion. Gweithdai a pherfformiadau hygyrch ar gael.
“Gwaith hudolus, hyfryd a bygythiol wedi’i wehyddu o gerfluniau sain a nodau rhythmig hardd”
20 - 21 Medi - Blaenafon Ironworks, Cymru
Cynhelir y sioe yn y Gwaith Haearn Blaenafon eiconig a adeiladodd y byd diwydiannol rydym bellach yn medi'r anfanteision o newid yn yr hinsawdd ac anghyfiawnder cymdeithasol eithafol yn ei sgil. Mae 'Warning Notes' ym Mlaenafon yn ein gwahodd ni i deimlo, gwrando a myfyrio ar ein straeon personol a byd-eang - o'r gorffennol a'r presennol – a'n dyfodol gyda'n gilydd.
Hygyrchedd:
Mae Warning Notes wedi cael ei chreu i fod yn addas ar gyfer cadeiriau olwyn, gyda chymysgedd o seddi ar gael.
Perfformiadau hamddenol – bydd y sioe gyntaf ar ddydd Gwener a dydd Sadwrn yn berfformiad ‘hamddenol’ i'r rhai hynny sy'n dymuno profi fersiwn ysgafnach, tawelach a mwy helaeth o'r sioe yn ystod oriau golau dydd.
Taith Gyffwrdd – mae taith gyffwrdd ar gael i’r rhai sy’n rhannol neu’n gwbl Ddall neu Fyddar. Mae'r daith hon ar gael ar gais - cysylltwch â Rosie Strang, Cynhyrchydd, i archebu – rosiestrang@googlemail.com, 07966 071073.
Mwy o wybodaeth am Warning Notes yma: - https://mark-anderson.uk/projects/warning-notes
Archebu lle: https://cadw.gov.wales/warning-notes
Y Tîm:
Gan Mark Anderson. Wedi’i greu ar y cyd â Liam Walsh.
Artistiaid a gydweithiodd - Marega Palser, Peter Cooper, Selina Nwulu, Grug Muse.
Cynhyrchydd - Rosie Strang
Ffotograffydd - Giles Bennett
Ffilm - Pete Telfer, Culture Colony, Kieran Ingham
Dyluniadau graffeg - Darragh Quinn
Meddalwedd cyfrifiadurol pwrpasol - Mathew Olden aka the Mighty Jungulator
Caledwedd - Graham Calvert.
Dylunio ac adeiladu caban - Colin Broadbent
Cefnogir Taith Warning Notes 2024 gan Without Walls UK, Cyngor Celfyddydau Cymru, Oxford Contemporary Music a Cadw.