top of page

"Y ffordd rydyn ni'n gweld pethau" dan arweiniad Artist DAC Caitlin Flood-Molyneux

Awdur: On Your Face LTD

Dydd Mercher, Tachwedd 27ain 

18:00-19:30

90-120 munud

Oedran: 18+


Mae'r ffordd rydym yn gweld pethau’n dylanwadu ar y penderfyniadau rydym yn eu gwneud, y camau rydym yn eu cymryd ac yn y pen draw, ein harfer celf a'n dyfodol proffesiynol. 


Sut mae un yn arddangos ei waith, yn creu arfer cynaliadwy ac yn gwneud bywoliaeth fel artist? Yn ystod oes lle mae pawb yn troi at gyfryngau cymdeithasol i gael sylw ac i farchnata, mae'n anodd gwybod pa lwybr i'w ddilyn nesaf. 


Testun y sgwrs hon fydd taith Caitlin Flood-Molyneux fel artist ac entrepreneur creadigol, a thrafodir y camau a gymerwyd ar y daith, o orffen y brifysgol i arddangos yn Sotheby's a Christie's. 


Cysylltwch â’r oriel i gael yr holl wybodaeth am fynediad.

Ffôn: 01792 516900 - E-bost: glynn.vivian.gallery@swansea.gov.uk


 
 

Rhif Elusen: 1176578

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru yn CIO

  • Instagram
  • Facebook
  • X

Wedi ariannu gan:

ACW funding strip landscape mono inv.jpg
AM.Pyst.png

© 2024 Celfyddydau Anabledd Cymru

bottom of page