Mae DAC yn gweithredu fel sefydliad aelodaeth gyda'r nod allweddol o gefnogi artistiaid a phobl greadigol anabl a Byddar i ffynnu yn y diwydiannau creadigol. Mae hefyd yn annog sefydliadau celfyddydol i ymuno â ni i helpu i weithio tuag at sector gelfyddydol mwy myfyriol a chynhwysol.

 
 
  • Rydym yn gweithio gyda'n haelodau i rannu cyfleoedd

  • Rydym yn gweithio gyda'n haelodau i greu cyfleoedd

  • Rydym yn cefnogi ein haelodau i ariannu a chynhyrchu gwaith cyn hyrwyddo’r gwaith hwn

Dyn caucasaidd gyda gwallt byr yn gwisgo sbectol haul yn chwarae piano crand ac yn canu mewn eglwys gyda llawr parquet.

Gwybodaeth Bellach

 

Rydym yn credu y dylai'r celfyddydau fod ar gyfer pawb yng Nghymru – ymunwch â ni heddiw er mwyn helpu i wireddu hynny. Mae aelodaeth AM DDIM i bobl anabl sy'n byw yng Nghymru, a cheir nifer o fanteision gan gynnwys:

  • Diweddariadau rheolaidd am gyfleoedd artistig

  • Cyfleoedd i arddangos eich gwaith ar-lein

  • Gwahoddiadau i ddigwyddiadau DAC

  • Help gyda cheisiadau cyllid

Croesawn sefydliadau i fod yn aelodau hefyd. Caiff eich sefydliad yr un manteision ag unigolion a buddion partneriaid.

  • Mae aelodaeth AM DDIM i bobl anabl, niwroddargyfeiriol neu Fyddar sy'n hunanddatgelu yng Nghymru. (Mae croeso i chi roi rhodd ddewisol yn lle ffî aelodaeth)

  • Mae aelodaeth yn £10 ar gyfer pobl anabl, niwroddargyfeiriol neu fyddar sy'n hunanddatgelu y tu allan i Gymru.

  • Mae aelodaeth yn £10 i bobl nad ydynt yn anabl yng Nghymru.

  • Mae aelodaeth AM DDIM i sefydliadau gydag arweiniad anabledd yng Ngymru.

  • Mae aelodaeth yn £50 i sefydliadau eraill yng Nghymru.

  • Mae aelodaeth yn £50 ar gyfer sefydliadau gydag arweiniad anabledd y tu allan i Gymru.

  • Mae aelodaeth yn £75 i sefydliadau eraill y tu allan i Gymru.

 

Datganiad Preifatrwydd

 

Pwy ydym ni?

Celfyddydau Anabledd Cymru yw’r prif sefydliad cenedlaethol ar gyfer celfyddydau anabledd yng Nghymru. Rydym yn cefnogi ac yn hyrwyddo artistiaid anabl, ac yn hyrwyddo eu gwaith celf, yn gweithio gyda chwmnïau celfyddydol a lleoliadau i’w gwneud yn fwy cynhwysol a hygyrch, ac yn defnyddio’r celfyddydau i herio canfyddiadau ynghylch anabledd.

Rydym yn casglu eich data i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y prosiectau rydym yn eu cefnogi; gan gynnwys gwaith hunangynhyrchiol DAC a gwaith ein haelodau a sefydliadau celfyddydol eraill yng Nghymru. Gyda’ch caniatâd chi – hoffwn roi gwybod i chi pa wybodaeth y byddwn yn ei gadw amdanoch, pam rydym yn cadw’r wybodaeth hon, am ba mor hir y byddwn yn ei chadw, ac ar gyfer beth y byddwn yn defnyddio’r wybodaeth hon.

Eich Gwybodaeth

Dim ond gwybodaeth rydych chi’n dewis ei roi i ni fyddwn ni’n casglu. Gall hyn gynnwys:

  • Eich enw

  • Eich cyfeiriad

  • Eich rhif ffôn

  • Eich cyfeiriad e-bost

  • Dolenni cyfryngau cymdeithasol

  • Eich adborth a’ch sylwadau

  • Unrhyw wybodaeth ychwanegol y dewiswch ei roi i ni

Sut y Defnyddir Eich Gwybodaeth

Mae DAC yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol drwy gadw eich data personol yn gyfredol, drwy ei storio a’i ddinistrio’n ddiogel, drwy beidio â chasglu na chadw gormod o ddata; drwy ddiogelu data personol rhag cael ei golli, ei gamddefnyddio, rhag rhywun yn cael mynediad iddo heb awdurdod a rhag cael ei ddatgelu, a thrwy sicrhau bod mesurau technegol priodol ar waith i ddiogelu data personol.

Rydym yn gwneud hyn drwy

  • Storio eich data ar gronfa ddata diogel sydd ond yn gallu cael ei defnyddio gan staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol

  • Cadw eich data personol am ddim mwy na sy’n rhesymol angenrheidiol, a dim ond cadw eich data am y cyfnod yr ydych chi wedi’i danysgrifio iddo.

  • Tynnu eich data personol oddi ar ein cronfa ddata a’i ddileu o’n cofnodion pan fyddwch yn dad-danysgrifio fel aelod.

A fydd unrhyw un arall yn cael gweld eich gwybodaeth?

Os ydych chi wedi rhoi adborth mewn digwyddiad, gellir atgynhyrchu’r ymateb hwn, naill ai’n gryno neu air am air, ar ein llwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu mewn unrhyw ymchwil neu astudiaethau achos o effaith a gyhoeddir ar ein gwefan neu mewn papurau a chylchgronau academaidd. Fodd bynnag, bydd yr ymatebion hyn yn ddienw, fel na fydd manylion personol fyth yn cael eu datgelu gydag ymatebion i adborth.
Ni fydd DAC yn trosglwyddo eich data personol i drydydd parti heb gael eich caniatâd chi yn gyntaf.

Pryd fyddwn yn cysylltu â chi?

  • Gallai’r manylion personol rydych chi’n eu rhoi i ni gael eu defnyddio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am brosiectau rydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd. Efallai y byddwn yn gwneud hyn drwy gyfrwng llythyr, ffôn, sianelau cyfryngau cymdeithasol neu e-bost.

  • Efallai y byddwn yn cysylltu â chi ynghylch unrhyw adborth a ddarparwyd gennych ynghylch y cynigion yn y digwyddiad ymgynghori.

Pa hawliau sydd gennych O ran y wybodaeth A ddaliwn amdanoch?

Ar unrhyw adeg pan fyddwn ni mewn meddiant o’ch gwybodaeth, mae gennych yr hawl i:

  • Ofyn am gopi o’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch chi.

  • Gywiro unrhyw wybodaeth y gallai fod gennym sydd yn anghywir.

  • Ofyn am y wybodaeth sydd gennym amdanoch chi i gael ei ddileu o’n cofnodion.

  • Pan fo amodau penodol yn berthnasol, mae gennych yr hawl i gyfyngu’r math o wybodaeth rydym yn ei brosesu amdanoch chi.

  • Mae gennych yr hawl i wrthwynebu mathau penodol o brosesu megis marchnata uniongyrchol.

Os fydd eich data yn cael ei ddefnyddio ar gyfer rhywbeth heblaw’r hyn yr ydym eisoes wedi’i gynnwys yma:  

Os ydym yn dymuno defnyddio eich data personol at bwrpas newydd, sydd heb ei gynnwys yn yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, byddwn yn rhoi hysbysiad newydd i chi sy’n esbonio hyn, a sut i optio mewn.

Beth ydy’r sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth bersonol?

Er mwyn prosesu eich gwybodaeth i fod yn gyfreithlon o dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, bydd DAC yn gofyn am eich caniatâd i ddefnyddio eich data, drwy gyfrwng ticio bocs i optio mewn ar y ffurflen ganiatâd.

Beth os ydych chi’n newid eich meddwl am y caniatâd rydych chi wedi ei roi?

Mae gennych yr hawl i newid eich meddwl ar unrhyw bryd ynghylch y caniatâd rydych chi wedi ei roi i DAC.