Arddangosfa Agored Tŷ Pawb 2024
Awdur: Tŷ Pawb
Galwad Agored – Cyflwyno Eich Gwaith Nawr
Mae Arddangosfa Agored Tŷ Pawb, sy’n hynod boblogaidd, yn gystadleuaeth Gelf cyflwyniad agored bob dwy flynedd lle gwahoddir Artistiaid i gyflwyno hyd at dri darn o waith celf i’w hystyried i’w harddangos yn ein harddangosfa agored. Denodd Cystadleuaeth Agored 2022 dros 4,500 o ymwelwyr.
Mae’r gystadleuaeth yn gyfle i bob Artist proffesiynol ac amatur arddangos eu gwaith ochr yn ochr yn ein horiel arobryn a chael cyfle i ennill un o’r tair gwobr eleni.
Dyddiad cau: 23:59 nos Sadwrn 31 Awst 2024