CHOO CHOO! gan StammerMouth yn Wŷl Undod Hijinx
Gŵyl Undod Hijinx yw un o wyliau celfyddydol cynhwysol mwyaf Ewrop, a’r unig un o’i math yng Nghymru. Mae Gŵyl Undod yn ôl eleni, 3 – 7 Gorffennaf yng Nghaerdydd, gyda chwaer ddigwyddiad yn Chapter yng Nghaerdydd (4 – 6 Gorffennaf), yn ogystal â rhaglenni cysylltiol ym Mangor (27 Mehefin) a Llanelli (29 Mehefin).
Mae rhaglen eleni yn cynnwys Nye Russell-Thompson o DAC! Mae StammerMouth, cwmni theatr arobryn Nye, yn dangos CHOO CHOO! yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ar 5 Gorffennaf am 8 yp. Mae'r cynhyrchiad yn cynnwys IAP wedi'i integreiddio gan Laura Goulden a Disgrifiad Sain wedi'i integreiddio hefyd. Dysgwch fwy a phrynwch docynnau yma: https://www.wmc.org.uk/en/whats-on/2024/choo-choo
Eleni, bydd y rhaglen gyforiog o ddigwyddiadau, sy’n dod â rhai o’r celfyddydau a theatr cynhwysol ac anabledd gorau o bob rhan o’r byd at ei gilydd, yn digwydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac o’i chwmpas 3 – 7 Gorffennaf ac yn cynnwys:
perfformiadau stryd am ddim i’r teulu cyfan
cerddoriaeth fyw
comedi
drag
digwyddiadau theatr a dawns â mynediad trwy docyn
Ehangu Undod: tri phrofiad trochol a realiti estynedig wedi eu curadu’n arbennig
Ffeindiwch raglen lawn yr Ŵyl Undod, gan gynnwys Gwybodaeth Hygyrchedd a Thaflen Cyhoeddusrwydd Sain, ar wefan Hijinx: https://www.hijinx.org.uk/unity-festival-2024/